Ganwyd 22 Tachwedd 1873 yn Nowlais; mab hynaf Evan Hughes. Symudodd ei rieni i Holly Bush, Llanilltud Faerdref (Llantwit Fardre) yn 1874. Yr oedd ei dad yn ddiacon ac yn arweinydd y gân yn Salem, capel y Bedyddwyr yno. Dechreuodd John Hughes weithio mewn pwll glo pan oedd yn 12 oed, yna bu'n glerc, ac yn olaf yn swyddog ym mhwll glo'r Great Western ym Mhontypridd. Priododd (1905) Hannah Maria David, a bu iddynt fab a merch. Fel ei dad, daeth yn ddiacon ac arweinydd y gân yng nghapel Salem. Cyfansoddodd ei emyn-dôn enwog ar gyfer cyfarfodydd dathlu yn 1907 yng nghapel Rhondda, Pontypridd. Fodd bynnag, nid oedd ' Cwm Rhondda ' ond un o lawer o emyn-donau, anthemau a chaneuon a gyfansoddodd. Bu farw yn Nhon-teg, Llanilltud Faerdref, 14 Mai 1932.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.