JONES, GRIFFITH (Glan Menai; 1836 - 1906), ysgolfeistr ac awdur

Enw: Griffith Jones
Ffugenw: Glan Menai
Dyddiad geni: 1836
Dyddiad marw: 1906
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr ac awdur
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd yn Llanfairfechan 15 Mawrth 1836, mewn bwthyn lle saif y Castle Buildings yn awr. Addysgwyd ef yn ysgol yr Eglwys ac yng ngholeg hyfforddi Caerfyrddin. Bu'n ysgolfeistr yn Llanddeusant (Môn), Llanfrothen, Aberaeron (ddwywaith), a Llandybïe. Prynodd dŷ yng Nghaernarfon ac ymsefydlodd yno.

Yr oedd anian llenydda ynddo er yn ieuanc ond wedi dod i Gaernarfon y dechreuodd ysgrifennu'n gyson i'r wasg. Penodwyd ef yn gynrychiolydd Mri. Blackie, y cyhoeddwyr enwog, a symudodd i fyw i Lanfairfechan. Bu farw yno 21 Hydref 1906 a'i gladdu ym mynwent y plwyf. Nid oedd ei amgylchiadau'n flodeuog yn niwedd ei oes, ond cafodd dysteb genedlaethol a phensiwn sifil o £30 y flwyddyn ar gyfrif ei wasanaeth i lenyddiaeth ei wlad.

Yr oedd yn eisteddfodwr brwd ac enillodd nifer o wobrwyon pwysig yn eisteddfodau'r cyfnod. Cyhoeddodd nifer o lyfrau, megis y nofel Hywel Wyn (1861), Enwogion Sir Aberteifi (1868), Caneuon (1886), Cyfystyron y Gymraeg (1892), Traethawd Bywgraffyddol a Beirniadol ar Edmwnd Prys (1899), Guide to Llanfairfechan (1901), &c. Gadawodd hunangofiant ym meddiant ei ferch yn Llundain, ond ni wyddys ymhle y mae hwnnw'n awr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.