JONES, JOHN RICE (1759 - 1824), arloeswr yng ngorllewin canol yr Amerig

Enw: John Rice Jones
Dyddiad geni: 1759
Dyddiad marw: 1824
Priod: Eliza Jones (née Powell)
Plentyn: Maria Jones
Plentyn: John Rice Jones
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arloeswr yng ngorllewin canol yr Amerig
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teithio
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Ganwyd Chwefror 1759, yr hynaf o bedwar plentyn ar ddeg John Jones, swyddog tollau, Mallwyd, Sir Feirionnydd. Yn ôl traddodiad teuluol bu ym mhrifysgol Rhydychen, ond ni ellir cadarnhau hyn. Ym mis Ionawr 1781, yn Aberhonddu, priododd Eliza, merch Richard a Mary Powell o'r dref honno. Yn 1782 yr oedd yn gyfreithiwr yn Aberhonddu a swyddfa ganddo hefyd yn Thanet Place, Strand, Llundain. Hwyliodd i Philadelphia yn 1784, ond dychwelodd yn yr un flwyddyn i gyrchu ei wraig a'i fab, John Rice. Gadawodd ei ferch fechan, Maria, ar ôl. Yn 1786 symudodd i Kentucky (a oedd ar y pryd yn dir cynghreiriol ac heb ei dderbyn fel talaith), a bu'n ymladd tan George Rogers Clarke yn y rhyfeloedd yn erbyn yr Indiaid gan orffen fel dirprwywr cyffredinol (commissary general) yn Vincennes (yn ddiweddarach yn Indiana). Yn Vincennes derbyniodd rodd o dir oddi wrth y Gyngres, a chasglodd gyfoeth mawr gan mai ef oedd y cyfreithiwr cyntaf a fedrai Saesneg i ddyfod i'r ardal yn y cyfnod hwn pan oedd pobl yn dylifo i mewn iddo. Ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf yn 1790, priododd wraig Americanaidd yn 1791 a bu iddynt deulu mawr. Pan ffurfiwyd Indiana yn diriogaeth yn 1800 ef oedd y twrnai cyffredinol cyntaf (dan W. H. Harrison), a bu'n cynorthwyo i lunio cyfreithiau cyntaf y diriogaeth (1807). Fel aelod o'r senedd diriogaethol cymerodd ran amlwg yn yr ymgais aflwyddiannus i gadw caethwasanaeth yn y diriogaeth (1802), a hefyd yn yr ymgais lwyddiannus i wneud Indiana (1816) ac Illinois (1818) yn daleithiau o'r Undeb. O tua 1809 bu'n gysylltiedig â gweithfeydd mwyn y tu hwnt i'r Mississippi, yn yr ardal a ddaeth yn ddiweddarach yn dalaith Missouri. Ef oedd perchennog y gwaith hynaf a mwyaf cynhyrchiol yn yr ardal, ac ef hefyd a ddechreuodd ddefnyddio'r ffwrnais lle troir y fflam yn ôl ar y deunydd (reverberatory). Yn 1817 ymunodd â'r ymgais i wneud Missouri yn dalaith, a chymerodd ran amlwg yn y confensiwn a luniodd ei chyfansoddiad yn 1820. O 1821 hyd 1824 bu'n un o farnwyr llys uchaf y dalaith newydd. Yr oedd hefyd yn un o ymddiriedolwyr gwreiddiol Prifysgol Indiana (1806) ac academi Potosi, Missouri (1817). Disgrifiwyd ef fel ' myfyriwr hyd ddydd ei farwolaeth ', a phriodolid iddo wybodaeth eang o ieithoedd. Cyfrifid ef yn ' siaradwr da ac yn ddadleuydd grymus ', a thybid ei fod yn ei ddydd yn un o ' ddynion cyfoethocaf y gorllewin mawr ', ac ar yr un pryd yn ' gyfaill i'r anghenus, yr anwybodus a'r trallodus '. Lladdwyd ei fab o'r un enw, a aned yng Nghymru ac a oedd yn aelod o senedd Indiana, mewn ysgarmes wleidyddol yn 1808. Daeth y plant a'r disgynyddion o'r ail briodas yn amlwg fel milwyr a chyfreithwyr yn nhaleithiau'r gorllewin canol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.