JONES, Syr THOMAS (1614 - 1692), prif farnwr

Enw: Thomas Jones
Dyddiad geni: 1614
Dyddiad marw: 1692
Priod: Jane Jones (née Barnard)
Rhiant: Edward Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prif farnwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Yr oedd o dras Cymreig (o lwyth Ednywain Bendew, gweler Archæologia Cambrensis, 1876, 1877, ac yn fwy uniongyrchol, 1878), ond â Sir Amwythig y buasai'r teulu'n gysylltiedig am gyfnod maith. Ni ddaeth Syr Thomas ei hun yn ddinesydd Cymreig, hyd iddo briodi Jane Barnard o Gaer a symud i fyw i Garreghwfa (Carreghova Hall), Sir Drefaldwyn. Disgrifir ei yrfa yn D.N.B., ac yn Williams, Montgomeryshire worthies . Yr oedd yn fab i Edward Jones, Sandford, Sir Amwythig, ac aeth o ysgol Amwythig i goleg Emanuel, Caergrawnt (B.A. 1632). Ymaelododd yn Lincoln's Inn yn 1629, a gwnaed ef yn far-gyfreithiwr yn 1634. Yn ystod y Rhyfel Cartref a chyfnod y Weriniaeth chwaraeai'r ffon ddwybig. Ar ôl 1660 cafodd ddyrchafiad cyflym - sarsiant, 1669; sarsiant y brenin a marchog, 1671; barnwr yn Llys Mainc y Brenin, 1676; prif farnwr Llys y Pledion Cyffredin, 1683. Yr oedd yn dra gwasaidd i'r Goron, ac yn 1680 penderfynodd Tŷ'r Cyffredin ddwyn uchel-gyhuddiad yn ei erbyn am ei fod yn bleidiol i Iago, dug Efrog. Ond, yn 1686, pan hawliodd Iago (a oedd erbyn hynny ar yr orsedd) y fraint o ddiddymu'r gyfraith, gwrthwynebodd Jones ef. Collodd ei swydd, a daeth yn ei ôl i Garreghwfa. Bu'n garcharor am ysbaid yn 1689 mewn canlyniad i gyhuddiadau a ddycpwyd yn ei erbyn ynglŷn â'i weithrediadau pan oedd yn farnwr yn ystod teyrnasiad Siarl II. Bu farw yng Ngharreghwfa, 31 Mai 1692, a chladdwyd ef yn eglwys S. Alkmond, Amwythig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.