Ganwyd ger Hendy-gwyn, Sir Gaerfyrddin, 13 Hydref 1859, yn fab i William Lewis, gof a Bedyddiwr selog. Yn 1871 bedyddiwyd ef a'i dderbyn yn aelod o Nazareth, Eglwys y Bedyddwyr, Hendy-gwyn. Am beth amser, bu'n gweithio yn efail ei dad, ond enynnwyd ynddo sêl genhadol wedi clywed am hanes William Carey, a chymhellwyd ef i ddechrau pregethu. Bu'n ddisgybl i'r Parch. John Evans yn ysgol ramadeg Sanclêr, ac yn 1880 aeth i Goleg y Bedyddwyr yn Hwlffordd. Derbyniwyd ef gan Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr, ac yn Chwefror 1883 hwyliodd i Affrica a dechrau ar gyfnod maith o wasanaeth llafurus a llawn peryglon dros bobl y cyfandir hwnnw. O'r Cameroons aeth i'r Congo, ac yno daeth yn arweinydd mewn tri digwyddiad hanesyddol yn natblygiad y genhadaeth yno - cychwyn eglwys yn San Salvadore (y gyntaf yn y Congo), sefydlu'r gwaith yn Kibokolo, ac agor yr United Training Institute yn Kimpese (ac ef yn brifathro cyntaf). Treuliodd ei 14 blynedd olaf fel cynrychiolydd Cymraeg Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr. Yn ystod y cyfnod hwn yr oedd hefyd yn gadeirydd y pwyllgor arbennig a ddiwygiodd Feibl y Congo. Gorffennwyd y gwaith hwn ar ôl deng mlynedd o lafur a chyhoeddwyd ef gan y Gymdeithas Feiblaidd. Priododd Thomas Lewis dair gwaith. Bu farw yn Llundain 5 Rhagfyr 1929, a chladdwyd ef yn New Southgate.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.