Dywedir mai mab oedd i Ddingad ap Nudd Hael, brenin Bryn Buga, a Tefrian neu Tonwy, merch Lleuddyn Lwyddog. Ychydig o fanylion sydd ar gael am ei fywyd, ond dywed traddodiad iddo gyflawni llawer o weithredoedd nerthol. Dywedir iddo ymwrthod â theyrnas ei dad er mwyn byw bywyd meudwy yn Sir Gaernarfon gyda'i frawd Baglan. Cysylltir blynyddoedd olaf ei fywyd ag Ynys Enlli. Dewiswyd ef yn abad ar gymdeithas mynachod yr ynys, ac yno hefyd y bu farw. Cadwyd ei 'Fuchedd' yn Llanstephan MS 34 yn y Llyfrgell Genedlaethol (llawysgrif o ddiwedd yr 16eg ganrif); a cheir copi a wnaed yn gynnar yn y 18ed ganrif yn llawysgrif Llanstephan 104. Cysegrwyd pedair eglwys yn wreiddiol i Lawddog, sef eglwysi Cenarth, Penboyr, a Llanllawddog yn Sir Gaerfyrddin, ac eglwys Cilgerran yn Sir Benfro. Gwelir olion o'i enw hefyd mewn enwau lleol yn y plwyfi hyn ac yn y rhannau isaf o benrhyn Llŷn (lle y ceir y ffurf Lleuddad). Nid oes sicrwydd am ei ddydd-gwyl; dywed rhai mai 15 Ionawr ydyw, ac eraill mai 21 Ionawr neu 10 Awst.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.