Mab Lewis Lloyd Maes-y-Porth, twrnai, ac Anne, ei wraig, bedyddiwyd ef yn Llangeinwen, 26 Mai 1728. Ar 11 Ionawr 1774, priododd Margaret Thomas yn eglwys Llansadwrn, sir Fôn. Yn 1793 ef oedd uchel siryf sir Fôn. Cymerai gryn ddiddordeb mewn llenyddiaeth ac achyddiaeth Gymraeg, a bu llawysgrifau Wynnstay 2, NLW MS 560B , NLW MS 1256D , NLW MS 1258C a NLW MS 1260B , a Bangor 5944 unwaith yn ei feddiant. Ceir ei enw hefyd yn iarth MS 160 . Yn B.M. Add MS. 15010 ceir achau a gopïwyd o waith oedd yn ei feddiant, a hwyrach mai ef a grynhodd yr achau a welir yn llawysgrifau Bangor 6946-7020. Enillodd beth bri hefyd fel bardd, a cheir enghreifftiau o'i gyfansoddiadau a'i gyfieithiadau yn llawysgrifau Bangor 5944 a 5947. Ceir darnau yn ei annerch yn llawysgrifau Caerdydd 3. 3, NLW MS 3060D , a Bangor 6 a 5947. Claddwyd ef yn Llangeinwen 21 Awst 1801.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.