mab Thomas Lloyd, cyfreithiwr yn Wrecsam, o deulu Plas Madog, Llanfair Talhaearn, sir Ddinbych; a'i fam o deulu'r Miltwniaid. Ymaelododd yn 15 oed yng ngholeg yr Iesu, Rhydychen, 25 Chwefror 1688/9 (B.A. 1692, M.A. 1695); wedi ei urddo bu'n gurad yn ardal Wrecsam, ac yn athro yng Nghastell y Waun, cyn ei apwyntio'n gaplan i Mary Myddelton, Croesnewydd. Gadawodd hi Blas Power iddo yn ei hewyllys, ond ni chafodd fyw i'w etifeddu, er mai yno y preswyliai cyn ei farw yn 1734; claddwyd yn Wrecsam 22 Hydref. Y mae rhai o'i lyfrau a'i lawysgrifau yn Ll.G.C. (gweler N.L.W. Handlist, eitemau 716-21). Y mae yn y Llyfrgell hefyd ei gopi o Dictionarium Duplex y Dr. John Davies yn llawn ychwanegiadau o eiriau a dyfyniadau a fu'n gymorth gwerthfawr i olygyddion Geiriadur Cymraeg Prifysgol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.