Ganwyd 1676 (bedyddiwyd 26 Tachwedd); aeth i Rydychen yn 1693; bu'n siryf Meirion yn 1726; bu farw 14 Awst 1731, a chladdwyd yn Nhywyn. Cynnwys llawysgrif Bangor 7056 (1-75) yn llyfrgell Coleg y Gogledd brydyddiaeth Saesneg ganddo, 'yr ail ran', yn dechrau yn 1711 ac yn ymestyn hyd tua 1729; arddengys addysg glasurol dda, hoffter o'i fro, a diddordeb byw yng ngwleidyddiaeth a moesau ei gyfnod.
Ymdrinir a'i briodas a'g Ann, aeres Ynysmaengwyn, Sir Feirionnydd, yn yr erthygl ar deuluoedd Wynn - Pryse - Corbet o'r lle hwnnw. Ar ei deulu gweler Collections, historical & archaeological relating to Montgomeryshire, xxii, 35-43.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.