Ganwyd 30 Ebrill 1770 yn Westminster, a bedyddiwyd ef yn 'Thompson', er mai 'Ap Thomas' oedd cyfenw ei dad (David) a'i fam (Ann) hyd iddynt symud i Lundain Bu'r tad farw pan nad oedd y bachgen ond tair oed. Addysgwyd David yn ysgol Grey Coat, ac yn 1784 prentisiwyd ef i wasanaethu Cwmni Bae Hudson. Bu'n glerc a masnachwr mewn crwyn am bum mlynedd, ac yna, yn 1789-90, daeth tan ddylanwad Philip Turnor, tir-fesurydd y cwmni. Dysgodd Turnor elfennau seryddiaeth a thriongliaeth iddo. Gosododd ei fryd ar dir-fesur ac archwilio, er gwaethaf gwrthwynebiad ei feistri. Dysgodd nifer o dafodieithoedd yr ieithoedd Brodorol, a chyda Beibl a 'sextant' yn ei law (yr oedd hefyd yn llwyrymwrthodwr tanbaid), aeth ati i archwilio a mapio. Gyda dau dywyswr o'r Ojibwe, gwnaeth arolwg o lwybr byrrach i lyn Athabasca. Yn 1797 aeth i wasanaethu Cwmni'r Gogledd Orllewin, ond er iddynt hwy roddi dwy flynedd o ryddid iddo i arloesi, nid oeddynt yn fodlon iddo gyfrif ei waith fel masnachwr mewn crwyn yn ail beth mewn pwysigrwydd. Yn y cyfamser dilynasai'r Afon Goch ac afon Assiniboine i'w tarddiad, teithiasai ar hyd glannau afon Assiniboine hyd at ei chysylltiad â'r Afon Goch yn ardal Winnipeg, dilynasai gwrs yr Afon Goch, a darganfuasai darddiad y Mississippi. Yn 1799 priododd ferch Métis dair ar ddeg oed o'r enw Charlotte Small, plentyn i Albanwr a menyw Cree. Aeth hi gydag ef ar ei holl deithiau, a bu iddynt saith mab a chwe merch. Dilynodd gwrs Afon S. Lawrence hyd atlyn Superior. Yn 1807 croesodd y Canadian Rockies. Daeth o hyd i darddiad afon Columbia, ac ef oedd y dyn gwyn cyntaf i ddilyn cwrs yr afon honno o'i tharddiad i'w haber (1811), gan fapio ar hyd y daith o dros 1200 milltir. Gadawodd Gwmni'r Gogledd Orllewin yn 1812, ac ymsefydlodd ym Montreal er mwyn cynllunio ei fap mawr o'r Gorllewin Pell, sylfaen pob map swyddogol a gyhoeddwyd gan lywodraeth Canada am gan mlynedd, a gwaith na cheir ei well am gywirdeb. Cedwir ef yn awr gyda dogfennau swyddogol talaith Ontario. Yn y cyfnod 1816-26 yr oedd yn aelod o'r comisiwn a oedd yn penderfynu ar ran o'r ffin rhwng Canada a'r Unol Daleithiau. Dioddefodd lawer yn ei flynyddoedd olaf. Symudasai yn 1836 i Williamstown (Ont.), ac agor siop, ond syrthiodd i dlodi fel canlyniad i ddyledion nas talwyd iddo, ei garedigrwydd di-reol, a methiant rhai o'i feibion mewn busnes. Bu farw yn Longueil (y tu allan i Montreal) yn 1857, a chladdwyd ef ym mynwent Mount Royal, Montreal. Anghofiwyd amdano ef a'i waith yn llwyr, hyd i ddaearyddwr arall, J. B. Tyrrell, ddilyn ei lwybrau eilwaith, a chyhoeddi ei ddyddiaduron yn 1916. Heddiw ceir gofgolofnau iddo ar ei fedd ym Mount Royal, yn British Columbia, ac yn North Dakota. Galwyd afon Thompson yn British Columbia ar ei ôl, er anrhydedd iddo, er nad ef a fu'n arloesi yn yr ardal honno. Yn 1957 cyhoeddodd llywodraeth Canada gyfres o stampiau i ddathlu canmlwyddiant ei farwolaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.