mab gwerthwr metel o Lundain; ganwyd yn Bridgwater, 1838, a'i addysgu yn y Wesleyan College, Taunton. Aeth i'r fasnach blatiau tun ym Margam, a phan godwyd gweithiau Melincryddan, ger Castell-nedd (1863), ef oedd yn cyfarwyddo'r gwaith. Yn 1865 cafodd arian ar fenthyg er mwyn prynu gweithiau haearn ac alcan Ynys-pen-llwch; yn 1871 cymerodd weithiau alcan Lydbrook ar rent, yn 1875 sicrhaodd weithiau Lydney, ac yn 1877 waith glo Lydbrook. Pan aeth y farchnad yn isel yn 1883 bu raid iddo ddyfod i delerau â'i echwynwyr; ond yn y diwedd talodd iddynt yn llawn. Yn 1884, gyda'i ddau fab, ffurfiodd gwmni preifat Richard Thomas a'i Feibion, ac yn 1888 prynodd weithiau haearn a phlatiau tun Melingriffith. Datblygodd gweithgareddau'r ffyrm yn gyflym, a sicrhau gweithiau yn Aberdâr (1890), Aber-carn (1895), Cwmfelin (1896), Llanelli a Burry Port (1898), Cwmbwrla (1898), a mannau eraill (1902-8). O'i wraig Ann (Loveluck) - a briododd yn 1859, cafodd bum mab a dwy ferch. Ni chymerodd fawr o ran yn y bywyd cyhoeddus, ond rhoes yn hael at ysbytai yn Llanelli, Abertawe, Caerdydd, Casnewydd, Ross, a Lydney. Troes ei feibion, ym Medi 1918, y ffyrm yn gwmni cyhoeddus; daliodd hwnnw i lwyddo ac yn 1935 prynodd weithiau dur Glynebwy. Erbyn heddiw daeth yn ffyrm Richard Thomas and Baldwin, Cyf. Bu farw 28 Medi 1916.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.