THOMAS, WILLIAM THELWALL (1865 - 1927), llawfeddyg

Enw: William Thelwall Thomas
Dyddiad geni: 1865
Dyddiad marw: 1927
Priod: Anabel Thomas (née Spence)
Rhiant: Elizabeth Thomas (née Hughes)
Rhiant: John Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llawfeddyg
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Emyr Wyn Jones

Ganwyd yn Lerpwl yn Chwefror 1865 yn ail blentyn John ac Elizabeth Thomas. Yr oedd ei rieni ar y pryd yn aelodau yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Rose Place, ond ymhen pythefnos ar ôl ei eni, ymunasant â'r achos newydd yn Fitzclarence Street. Bu Thelwall Thomas yn aelod yn y capel hwnnw, ac yn athro yn yr Ysgol Sul yno, am flynyddoedd lawer, a chadwodd ei gysylltiad ag ef hyd nes y rhwystrwyd ef gan ei ddyletswyddau meddygol yn yr ysbyty rhag mynychu'r oedfaon yn gyson. Ymfalchïai ar hyd ei oes yn ei fagwriaeth Gymraeg, ac nid anghofiodd ei ddyled fawr i'w rieni. Dywedir mai wrth gymryd tro yng nghwmni ei dad yng Nghwm Bowydd, Ffestiniog, y penderfynodd gyntaf fynd yn feddyg, ac yntau'n bedair ar ddeg ar y pryd. Cadwodd ei ddi ddordeb mewn materion Cymreig hyd y diwedd. Siaradai Gymraeg yn rhugl, ac yn 1925 bu'n un o lywyddion yr eisteddfod genedlaethol ym Mhwllheli. Bu hyd ei farw yn Feddyg Ymgynghorol i Genhadaeth Dramor y Methodistiaid Calfinaidd, a gwasanaethodd fel Llawfeddyg Ymgynghorol i Gymdeithas y Gofeb Genedlaethol Gymreig er atal y Darfodedigaeth.

Cafodd Thelwall Thomas ei addysg gynnar yn y Liverpool Institute. Yna aeth i efrydu meddyginiaeth yn Glasgow, ac yn 1886 graddiodd yn feddyg gan basio'r tair gradd ofynnol yn Sgotland ac ennill hefyd ei M.R.C.S. (Lloegr). Wedi hynny bu'n dal swyddi preswyl yn y Royal Infirmary, Lerpwl, lle y penodwyd ef yn Llawfeddyg Cynorthwyol yn 1892, ddwy flynedd ar ôl ei dderbyn yn F.R.C.S. Yn 1907 dyrchafwyd ef yn llawfeddyg, ac yn 1913 fe'i hetholwyd yn athro llawfeddygaeth ym Mhrifysgol Lerpwl. Daliodd y ddwy swydd hon hyd nes iddo ymddeol yn 1923, ac amlygodd yn ei waith ddoniau disglair ac amrywiol. Yr oedd yn athro clinigol golau a threiddgar, ac ystyrid ef yn ei ddydd yn un o lawfeddygon mwyaf deheuig y deyrnas. Cyfrannodd lawer o syniadau gwreiddiol, onid chwyldroadol, i grefft y llawfeddyg, ac ar yr un pryd yr oedd ei drylwyredd yn ddihareb. Yr oedd hefyd yn weinyddwr tan gamp. Gwnaeth lawer i osod Ysgol Feddygol newydd Prifysgol Lerpwl ar sylfaen ddiogel, ac ef yn ddiau oedd un o'i phenseiri pennaf. Gan iddo ef ei hun orfod brwydro yn erbyn anawsterau mawr ar ddechrau'i yrfa, gallai ddeall a chydymdeimlo ag efrydwyr ieuainc yn eu hanawsterau hwy, a cherid ef yn fawr ganddynt.

Dewisodd Thelwall Thomas o'r dechrau yn ddewr iawn ganolbwyntio ar waith llawfeddyg ymgynghorol. O'i flaen ef, ni bu yn Lerpwl feddyg a'i cyfyngai ei hun i waith llawfeddygol yn unig, ac yr oedd yn rhaid wrth ddewrder a phenderfyniad mawr arno i'w gynnal trwy anawsterau'r dyddiau cynnar. Daeth llwyddiant eithriadol iddo yn y man, ond ni fennodd hynny ddim ar ei gymeriad. Parhaodd yn wr cyfeillgar a charedig a gweithgar, a gwnaeth gymwynasau hael aneirif, yn aml yn y dirgel, â'i gydfeddygon ac â chleifion dan ei ofal.

Ymysg llawer o swyddi pwysig y bu Thelwall Thomas yn eu llanw, dylid crybwyll a ganlyn; Llywydd Adran Llawfeddygaeth Cynhadledd y B.M.A. yn 1913; Llywydd Sefydliad Meddygol Lerpwl 1918-1919; aelod o gyngor y Royal College of Surgeons (Lloegr) o 1921 hyd ei farw; ac aelod o'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (G.M.C.) yn 1926-1927.

Yn 1892 priododd ag Anabel, ferch Alexander Spence, Huntly, Aberdeen; ni bu iddynt blant; bu farw ei wraig yng Ngorffennaf 1927, a bu yntau farw'n ddisyfyd ymhen deufis wedi hynny, ar 10 Medi, pan oedd yn darllen yn dawel yn ei gartref yn Allerton, Lerpwl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/