WILLIAMS, WILLIAM ('Creuddynfab '; 1814 - 1869), llenor a bardd

Enw: William Williams
Ffugenw: Creuddynfab
Dyddiad geni: 1814
Dyddiad marw: 1869
Priod: Elizabeth Williams (née Hughes)
Rhiant: Ellin Williams
Rhiant: Enoch Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor a bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Margaret Beatrice Davies

Ganwyd 20 Awst 1814 yn y Tŷ Du yn y Creuddyn, Llandudno, yn fab i Enoch ac Ellin Williams. Saer maen oedd ei dad. Fel yr hynaf o deulu lluosog ni chafodd Creuddynfab fawr o addysg a bu raid iddo ddechrau gweithio yn ieuanc ar ffermydd yr ardal. Yn ddiweddarach anfonwyd ef i Kenyside, ger Knutsford, at fodryb ac i weithio ar fferm yno.

Symudodd i Fanceinion i weithio mewn masnachdy a thra yno priododd, yn 1837, ag Elizabeth Hughes, merch i lifiwr, David Hughes, yn Llangollen. Ymhen rhai blynyddoedd cafodd swydd fel ysgrifennydd ar orsaf y rheilffordd yng nghymdogaeth Huddersfield a'i ddyrchafu'n orsaf-feistr a threulio 3 blynedd yn Oldham, a 16 yn Stalybridge yn y safle honno. Yn ystod ei arhosiad yn Stalybridge daeth yn un o brif aelodau Cymdeithas y Cymreigyddion ym Manceinion, a thua'r adeg yma hefyd daeth yn gyfeillgar a J. Ceiriog Hughes.

Ymddiswyddodd yn 1860 a symudodd i Landudno er mwyn cymeryd swydd fel ysgrifennydd yr Eisteddfod Genedlaethol - ysgrifennydd cyflogedig cyntaf y Gymdeithas, mae'n debyg. Gwnaeth waith mawr iawn ynglŷn â'r Eisteddfod, ond methodd a chyflawni'r dyledswyddau yn hwy na phum mlynedd (dwy yn ôl un hanesydd) oherwydd afiechyd. Er mai un llyfr a gyhoeddodd, sef Y Barddoniadur Cymreig, 1855, ysgrifennodd lu mawr o erthyglau i gylchgronau a phapurau'r cyfnod. Cymerodd ddiddordeb neilltuol yn yr eisteddfod a bu'n fuddugwr ac yn feirniad lawer gwaith. Yr oedd yn fardd a rhyddieithwr da hefyd.

Bu farw yn Llandudno, 26 Awst 1869 yn 55 oed, a chladdwyd ym mynwent Glanwydden.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.