Ganwyd 24 Mehefin 1901, yn Walthamstow, Llundain, mab hynaf David Alban Davies a Rachel (ganwyd Williams) ei wraig, y ddau o Geredigion. Addysgwyd ef yn ysgol Merchant Taylors, ac enillodd ysgoloriaeth i Goleg S. Ioan, Rhydychen, ond ni allai fforddio mynd yno. Aeth i Brifysgol Cornell, T.U.A., am ddwy flynedd yn efrydydd amaethyddiaeth a llaetheg a gweithiodd am gyfnod byr mewn cwmnïau Americanaidd er mwyn astudio'u dulliau hwy o redeg busnes. Ymunodd â busnes y teulu yn 1925 ac ymhen amser daeth yn gadeirydd y cwmni, Llaethdai Hitchman, Cyf., a werthai 20,000 o alwyni o laeth y dydd a chyflogi dros 500 o ddynion pan werthwyd ef i gwmni cyfyngedig United Dairies yn 1946. Yr oedd hefyd yn dansgrifennwr cwmni yswiriant Lloyd. Ar 6 Rhagfyr 1939 priododd Margaret, merch John Davies, capten llong, Aberaeron a bu iddynt ddau fab. Bu farw 26 Mai 1968 ym Mrynawelon, Llanrhystud, Ceredigion, ei gartref er 1963.
Bu'n weithgar yn lleol, gan ddod yn llywydd y Gymdeithas Ryddfrydol a'r Clwb Rotari yn Walthamstow a gweithiodd gyda Chymdeithas y Clybiau Ieuenctid yno, ac yntau'n sbortsmon ei hun. Pan aeth capel Moreia (MC), Walthamstow, yn rhy fach, ef a fu'n bennaf gyfrifol am annog codi capel newydd, Moreia, yn Leytonstone, a oedd yn fan cyfarfod cyfleus i'r Cymry ifainc a dyrrai i Lundain bryd hynny. Derbyniodd lawer o gymdeithasau Cymraeg Llundain roddion hael ganddo. Gwnaeth ei orau i hyrwyddo'r iaith Gymraeg ac yr oedd yn un o sylfaenwyr Ysgol Gymraeg Llundain a agorwyd fis Medi 1961 mewn ystafell dros dro yn neuadd Eglwys Dewi Sant. Yn ddiweddarach darparodd fws i gludo'r plant i'r dosbarth Cymraeg yn ysgol gynradd Ffordd Hungerford yn Islington cyn i'r dosbarth symud i Willesden Green. Flynyddoedd ynghynt, yn 1948, sefydlodd ysgol baratoawl i fechgyn yn Abermâd, Llanilar, Ceredigion, lle y dysgid hwy trwy gyfrwng y Gymraeg hyd at naw oed. Bu'r ysgol ar agor hyd tuag 1971. Yn 1965 arweiniodd ddirprwyaeth i Batagonia.
Gwasanaethodd nifer o sefydliadau yng Nghymru. Fel trysorydd rhoddodd arweiniad gwerthfawr i Urdd Gobaith Cymru (c. 1950), i G.P.C. (1954-68) ac i Goleg Harlech (1957-68). Bu'n gadeirydd Cyngor Diogelu Cymru Wledig; yn aelod o gynghorau C.P.C. ac A.G.C.; ac aelod dros Gymru o'r Awdurdod Teledu Annibynnol am ddau dymor, 1956-64. Derbyniodd Urdd Gobaith Cymru roddion ganddo, cyfrannodd yn hael tuag at gynhyrchu The Oxford book of Welsh verse a rhoddodd £10,000 i gronfa adeiladau C.P.C., Aberystwyth. Cydnabuwyd ei wasanaeth arbennig i amrywiol agweddau ar y bywyd Cymreig trwy ei benodi'n siryf Ceredigion yn 1951 a dyfarnwyd gradd LL.D. er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru yn 1964.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.