Ganwyd 19 Gorffennaf 1888 yn Abertawe. Derbyniodd y rhan fwyaf o'i addysg mewn dosbarthiadau nos tra'n gweithio ym mhorthladd Abertawe. Treuliodd chwe blyned fel ysgrifennydd cangen Abertawe o Undeb y Docwyr cyn sicrhau swydd lawn amser fel swyddog undeb pan benodwyd ef yn 1920 yn ysgrifennydd cangen y Barri o'r Transport and General Workers' Union. Fe'i dewiswyd yn gadeirydd Cymdeithas Llafur Abertawe yn 1921 a chadeirydd Ysbyty Cyffredinol Abertawe y flwyddyn ganlynol. Yn 1928 cafodd ei ethol yn llywydd cangen Gymreig y Blaid Lafur Annibynnol a gwasanaethodd fel llywydd Cyngor Masnach y Barri.
Safodd fel ymgeisydd Llafur ar gyfer etholaeth Clitheroe yn etholiadau cyffredinol 1931 ac 1935 ond yn aflwyddiannus. Etholwyd ef yn aelod o Gyngor Bwrdeistref y Barri yn 1931, daeth yn henadur y cyngor yn 1939 a daliodd afael yn ei sedd nes iddo benderfynu ymddeol ym mis Tachwedd 1945, gan wasanaethu fel maer y Barri yn 1941-42. Gweithredodd hefyd fel Arolygwr Porthladdoedd de Cymru yn 1941-42. Ym Mawrth 1937 dewiswyd ef yn Ynad Heddwch dros Sir Forgannwg. Bu hefyd yn Ddirprwy Raglaw 'r sir ac yn 1951 fe'i dyrchafwyd yn gadeirydd ynadon Morgannwg. Yn etholiad cyffredinol 1945 etholwyd ef yn aelod seneddol (Llafur) dros etholaeth Canol Bryste. Ailetholwyd ef gyda mwyafrif sylweddol yn 1950, 1951, 1955 ac 1959, a phenderfynodd ymddeol yn 1964. Yr oedd yn aelod o'r ddirprwyaeth seneddol i Malaya yn 1948 ac yn aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Amcangyfrifon yn 1950-51.
Yr oedd yn hanesydd lleol brwd a gweithgar ac yn awdur nifer o weithiau pwysig gan gynnwys Labour's early struggles in Swansea (1949), Let us talk of Barry (1954), Llancarfan: the village of a thousand saints (1957), The story of St. Athan and Aberthaw (1959), I searched for Llantwit Major (1965), St. Donat's Castle and the Stradlings (1966), The Baptists in Barry for 150 years (1967), a Fourteen talks about Barry (1968), Cyhoeddodd yn ogystal nifer o erthyglau ar agweddau ar hanes lleol.
Priododd yn 1911 a bu iddo ef a'i wraig Elizabeth Jane ddau fab a thair merch. Bu ei wraig farw ym mis Ebrill 1969 ac yntau 7 Mai 1969.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.