BEBB, WILLIAM AMBROSE (1894 - 1955), hanesydd, llenor a gwleidydd

Enw: William Ambrose Bebb
Dyddiad geni: 1894
Dyddiad marw: 1955
Priod: Eluned Pierce Bebb (née Roberts)
Rhiant: Ann Bebb
Rhiant: Edward Bebb
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd, llenor a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Parry

Ganwyd 4 Awst 1894 ym Mlaendyffryn, Goginan, Ceredigion, yn fab i Edward ac Ann Bebb. Symudodd y teulu i Gamer Fawr, Tregaron, ac yn ysgol ramadeg Tregaron y cafodd Bebb ei addysg. Derbyniwyd ef yno fis Medi 1908. Graddiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1918, mewn Cymraeg a hanes, a threuliodd ddwy flynedd yn gwneud ymchwil am radd M.A.. Aeth i Brifysgol Rennes yn 1920, ond nid oedd y cyfleusterau yno wrth ei fodd, ac ar ôl ychydig wythnosau aeth i Baris, lle bu'n dilyn darlithiau'r Athro Joseph Loth yn y Collège de France ac yn cynorthwyo'r Athro Joseph Vendryes yn y Sorbonne gyda dysgu Cymraeg i fyfyrwyr. Yn 1925 penodwyd ef yn diwtor yn y Coleg Normal, Bangor, ac yno y bu am y gweddill o'i oes. Bu'n dysgu Cymraeg, hanes ac Ysgrythur ar wahanol adegau.

Cyhoeddodd Ambrose Bebb chwe llyfr ar hanes Cymru, o'r cyfnodau cynharaf hyd yr unfed ganrif ar bymtheg. Gwersi a draddodwyd ar y radio yn 1936 oedd un ohonynt, sef Hil a hwyl y castell (1946). Y mae'r pump arall yn ddilyniant, er nad yw dyddiadau eu cyhoeddi yn dilyn ei gilydd mewn trefn amseryddol. Y cyntaf oedd Ein hen hen hanes (1932), llyfr syml i blant ifainc yn rhoi hanes Cymru o'r oesoedd bore hyd gwymp Llywelyn ap Gruffudd. Yr ail oedd Llywodraeth y cestyll (1934), yn dwyn yr hanes ymlaen i ddiwedd y bymthegfed ganrif. Yna daw Machlud yr Oesoedd Canol (1950), Cyfnod y Tuduriaid (1939) a Machlud y mynachlogydd (1937). Y mae dwy nodwedd arbennig ar y gweithiau hanesyddol hyn. Un yw bod yr awdur wedi defnyddio ffynonellau Cymreig, sef gweithiau Beirdd yr Uchelwyr, yn ogystal â ffynonellau mwy arferol fel amryfal bapurau'r wladwriaeth, i ddeall ac egluro hanes Cymru, gan ddyfynnu'n helaeth o gasgliadau cyhoeddedig ac anghyhoeddedig o weithiau'r beirdd. Nodwedd arall yw'r brwdfrydedd cenedlaethol sy'n cymell pob trafodaeth ac yn peri fod llyfr hanes ganddo ef, nid yn unig yn gofnod o ffeithiau am adeg arbennig mewn hanes ac am y gwyr o bwys ar y pryd, ond hefyd yn ymgais i ddeffro yn y darllenydd yr un brwdfrydedd ag yr oedd yr awdur yn ei deimlo.

Rhoes yr hanesydd raff i'w ddychymyg mewn tri llyfr, a'r tri yn ymwneud â bywyd cefn gwlad Cymru pan oedd ymfudo i America yn beth cyffredin. Yn Y Baradwys bell (1941) ceir dyddiadur dychmygol un o'i hynafiaid ef ei hun am y flwyddyn 1841, ac yn Gadael tir (1948) y mae hanes yr un gwr nes iddo ymfudo i America yn 1847. Yn y ddau lyfr gwneir defnydd o lythyrau a anfonwyd o America ac a gadwyd yn y teulu. Nofel yw Dial y tir (1945) am nifer o wyr a gwragedd o Faldwyn a ymfudodd i America yn niwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ar bymtheg, gan gynnwys eto aelodau o deulu'r awdur ei hun. Y mae elfen helaeth o wir hanes yn y tri gwaith hyn.

Fel un a fu'n ysgrifennu dyddiadur am flynyddoedd yr oedd Bebb mewn safle da i lunio sylwadaeth ar ddigwyddiadau mewn cyfnod arbennig. Dyna a wnaeth yn 1940, Lloffion o ddyddiadur (1941) a Dyddlyfr 1941 (1942). Cyffelyb yw Calendr coch (1946), sef cronicl ei ymgyrch etholiadol fel ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru yn 1945. Rhagoriaeth y gweithiau hyn yw eu bod yn cadw ymateb cyfamserol yr awdur i'r hyn a ddisgrifir, heb i bellter amser ymyrryd o gwbl.

Byth er pan dreuliodd ychydig amser yn Rennes yn 1920 a gweithio am y pedair blynedd ym Mharis, daeth Bebb i ymddiddori fwy a mwy yn Llydaw. Ymwelodd â'r wlad droeon a theithio ei hyd a'i lled nes dod i adnabod ei daear yn drwyadl; dysgodd yr iaith, a bu ganddo nifer o gyfeillion agos ymysg y Llydawiaid. Cyfrannodd lawer o erthyglau i Breiz Atao, cylchgrawn y cenedlaetholwyr Llydewig. Trwy hyn i gyd enillodd iddo'i hun nid yn unig wybodaeth drwyadl am Lydaw, ei hanes, ei harferion a'i chrefydd, ond hefyd edmygedd o'i bywyd a chydymdeimlad ag amcanion y sawl a oedd am ddiogelu ei diwylliant. Y canlyniad oedd tri llyfr: Llydaw (1929), Pererindodau (1941) a Dydd-lyfr pythefnos, neu y Ddawns Angau (1939), sef hanes ei daith trwy Lydaw yn ystod y pythefnos olaf cyn dechrau'r ail ryfel byd.

Er anghytuno'n drwyadl ag agwedd elyniaethus Ffrainc tuag at Lydaw a'i hiaith, yr oedd Bebb yn fawr ei edmygedd o Ffrainc a'i chyfraniad nodedig hi i ddiwylliant y byd, ac yr oedd yn hyddysg yn ei hanes a'i llenyddiaeth. Gwelir hyn yn ei lyfr Crwydro'r cyfandir (1936), hanes taith trwy Ffrainc, yr Eidal a'r Swistir. Tra bu'n byw ym Mharis daeth i adnabod Leon Daudet a Charles Maurras ac eraill o arweinwyr y mudiad ceidwadol a breniniaethol a elwid L'Action Française, a chawsant ddylanwad mawr ar ei feddwl. Yn ystod ei holl ymweliadau â Ffrainc bu'n darllen cylchgrawn y mudiad yn gyson.

Un rheswm am ymlyniad Bebb wrth Lydaw oedd ei fod er yn gynnar ar ei yrfa yn genedlaetholwr pybyr. Yr oedd felly pan oedd yn fyfyriwr yng ngholeg Aberystwyth, lle bu'n olygydd Y Wawr, cylchgrawn myfyrwyr a feiddiodd, yn ystod Rhyfel Byd I, ddadlau achos gwrthryfelwyr wythnos y Pasg, 1916, yn Iwerddon, a chefnogi'r rhai oedd yn gwrthod mynd i'r lluoedd arfog ar dir cydwybod. Y diwedd fu i awdurdodau'r coleg wahardd cyhoeddi'r cylchgrawn. Pan oedd yn gweithio ym Mharis, byddai Bebb yn anfon erthyglau i gyfnodolion Cymraeg fel Y Geninen, Y Llenor, Y Faner, Cymru, a'r Tyst yn trafod dyfodol yr iaith Gymraeg, ac mor gynnar ag 1923 yn dangos fod ar Gymru angen ymreolaeth. Bu gan yr erthyglau hyn ran bwysig mewn creu awyrgylch ffafriol i sefydlu plaid boliticaidd Gymreig annibynnol. Yn Ionawr 1924 cyfarfu G. J. Williams a Saunders Lewis ac yntau ym Mhenarth a phenderfynu cychwyn mudiad gwleidyddol Cymreig. Yn Awst 1925 cyfarfu nifer fach o Gymry brwd ym Mhwllheli, a sylfaenu Plaid Genedlaethol Cymru. Daeth y ddau fudiad at ei gilydd, ac ym Mehefin 1926 cychwynnwyd Y Ddraig Goch. Erthygl gan Bebb oedd ar dudalen cyntaf y rhifyn cyntaf, ac ef oedd y golygydd ar y rhifynnau cynnar. Bu'n aelod o'r bwrdd golygyddol hyd ddechrau'r rhyfel.

Am y pymtheng mlynedd hyn ymroes Bebb yn ddiarbed i bob math o waith dros y Blaid Genedlaethol (fel y gelwid hi y pryd hwnnw). Bu'n llywydd cangen Coleg y Brifysgol, Bangor, a phwyllgor Sir Gaernarfon, ac enillodd sedd ar Gyngor Dinas Bangor yn enw'r Blaid yn 1939. Anerchodd gyfarfodydd afrifed, ac ysgrifennodd i'r wasg yn gyson ar egwyddorion cenedlaetholdeb. Buan y daethpwyd i'w gydnabod fel un o brif arweinwyr y mudiad.

Ond gyda chychwyn y rhyfel yn 1939 torrodd ef ei gyswllt â'r arweinwyr eraill. Yr oeddent hwy yn dadlau na chafodd Cymru, yn niffyg ymreolaeth, gyfle i benderfynu ei hagwedd at y rhyfel, ac mai niwtraliaeth oedd yn gweddu. Ond i Bebb yr oedd tynged Ffrainc, y wlad a gyfrannodd mor helaeth i ddiwylliant y byd ac a oedd mor annwyl ganddo ef, yn rhy bwysig i'w gadael ar drugaredd materoliaeth a militariaeth yr Almaen. Am rai blynyddoedd ni bu dim a wnelo ef â gwleidyddiaeth yng Nghymru. Ond yn 1945, wedi taer bwyso arno, cytunodd i sefyll fel ymgeisydd y Blaid Genedlaethol yn yr etholiad seneddol a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno.

Yr oedd Bebb bob amser yn arddel crefydd bersonol, ac yn arbennig o bleidiol i'r Ysgol Sul. Cyhoeddodd lyfr arni (Yr Ysgol Sul) yn 1944. Cyn diwedd ei oes yr oedd ei ofal am Gymru wedi symud oddi wrth ystyriaethau iaith a diwylliant at bryder ynghylch ei chyflwr crefyddol. Nid yn y pleidiau gwleidyddol, ond yn nelfrydau'r grefydd Gristionogol, yr oedd gobaith i ddyn a chenedl. Mynegodd y safbwynt hwn mewn cyfres o erthyglau yn Yr Herald Cymraeg yn 1953. (Cyhoeddwyd hwy wedyn yn y gyfrol Yr Argyfwng yn 1955, wedi marw'r awdur). Mynegodd yr un gred yn gryf iawn yn y gyfrol a ysgrifennodd i ddathlu canmlwyddiant sefydlu ei gapel ym Mangor, Canrif o hanes y Twr Gwyn (1954). Ond er newid safbwynt, ni laeswyd dim ar y brwdfrydedd na'r argyhoeddiad na'r diffuantrwydd a oedd mor gryf yn ei gymeriad ef bob amser. Fel ysgrifennwr rhyddiaith Gymraeg yr oedd iddo ei nodweddion amlwg. Byddai'n defnyddio geiriau llafar ei dafodiaith ef ei hun yn helaeth, ac yn cyfosod geiriau, a'r rheini'n fynych wedi eu cyflythrennu, nes creu'r argraff o afiaith a bwrlwm, a'r cyfan o ran y pleser o ysgrifennu neu er mwyn cyfleu ei neges, boed honno'n ddisgrifiad o ddarn o wlad neu'n fynegiant o ryw egwyddor bwysig y mynnai ef ei gosod yn ddiogel ym meddyliau ei ddarllenwyr.

Cyfieithodd Bebb ddau lyfr o'r Ffrangeg : Geiriau credadun gan Lamennais (1923) a Mudandod y môr gan ' Vercors ' (1944).

Priododd yn 1931 Eluned Pierce Roberts, Llangadfan, a bu iddynt saith o blant. Bu farw yn ddisyfyd 27 Ebrill 1955, a chladdwyd ef ym mynwent Glanadda, Bangor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.