Ganwyd yn Bruges, Gwlad Belg, 12 Mai 1867, yn drydydd mab William Curtis Brangwyn (a fu farw 1907 yng Nghaerdydd) ac Eleanor (ganwyd Griffiths) ei wraig a hanai o Aberhonddu. Pensaer eglwysig oedd y tad a chanddo weithdy dodrefn eglwysig yn Bruges ond dychwelodd y teulu i Lundain yn 1875. Ychydig o addysg ffurfiol a gafodd y mab. Bu'n dysgu dylunio yn Amgueddfa De Kensington ac yn gweithio yng ngweithdy William Morris yng nghanol Llundain, 1882-84, yna bu'n arlunydd crwydrol yn Lloegr cyn dechrau teithio ar y cyfandir, y Dwyrain Canol a De Affrica. Yn 1896 priododd nyrs, Lucy Ray (bu farw 1924), ac ymsefydlu yn Hammersmith, Llundain ond ni bu iddynt blant. Bu farw yn Ditchling, Sussex, 11 Mehefin 1956.
Arbenigodd mewn addurno adeiladau mawr megis y Gyfnewidfa Frenhinol yn Llundain a'r Capitol yn Nhalaith Missouri, T.U.A., â murlenni anferth, a chynllunio carpedi a gwaith tapestri. Comisiynwyd ef gan Arglwydd Iveagh yn 1924 i beintio murlenni yn gofeb rhyfel i Dŷ'r Arglwyddi. Wedi arbrofi gyda golygfeydd o faes y gad cafodd y syniad o ddarlunio cyfoeth yr Ymerodraeth Brydeinig y syrthiodd y bechgyn er ei mwyn, ond pan oedd y gwaith ar ei hanner gwrthododd yr Arglwyddi ei dderbyn ac yn awr y mae'r lluniau mawr lliwgar yn addurno canolfan ddinesig Abertawe lle y cynlluniwyd Neuadd Brangwyn i'w derbyn. Ceir casgliad mawr o'i ddyluniadau a'i gartwnau paratoadol i'r gwaith hwn yn Oriel Glynn Vivian, Abertawe, lluniau yn ninasoedd Ewrob ac Awstralia, a chasgliad mawr o'i waith yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Yr oedd yn awdur Belgium (1916) a The way of the cross (1935). Derbyniodd lawer o anrhydeddau yma ac ar y cyfandir a'i urddo'n farchog yn 1941.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.