Ganwyd 17 Mehefin 1886 yn Staylittle yng ngorllewin Maldwyn, yr ieuangaf o bum mab a phedair merch John a Mary (ganwyd Jones) Brunt, gweithiwr amaethyddol. Hyd nes ei fod yn 10 oed bu'n ddisgybl yn ysgol y pentref - ysgol un athro a roddai ei holl hyfforddiant yn Gymraeg. Yn 1896 cymerodd y tad ei deulu i'r maes glo yn y de, lle y bu'n gweithio fel glöwr. Ymsefydlodd y teulu yn Llanhiledd yng Ngwent mewn amgylchedd gwahanol iawn i'w cynefin ar weundir agored y canolbarth. Am y tair blynedd nesaf mynychodd David yr ysgol elfennol leol gan oresgyn y problemau iaith a phroblemau dosbarthiadau mwy lluosog a diffyg sylw arbennig. Yn 1899 safai ar ben rhestr y rhai a enillodd ysgoloriaeth mynediad i ysgol ganolradd (sirol wedyn) Abertyleri, ac yno dechreuodd ddangos disgleirdeb eithriadol mewn mathemateg a chemeg. Yn 1904 cafodd anrhydedd mewn mathemateg ychwanegol yn arholiad y Dystysgrif Uwch, ac o ganlyniad dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth sir o £30 y flwyddyn am 3 blynedd. Yn yr un flwyddyn enillodd ysgoloriaeth uchaf (£40) mynediad i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, dros gyfnod cyffelyb. Felly y gallodd ddilyn gyrfa prifysgol. Bu'n astudio mathemateg dan ddau athro arbennig iawn, R.W. Genese a G.A. Schott, a ddaeth i ymfalchïo yn eu disgybl. Yn 1907 gadawodd Aberystwyth gyda gradd anrhydedd dosbarth I disglair mewn mathemateg ac ar ôl ysbaid fer aeth yn fyfyriwr mewn mathemateg yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Cafodd ddosbarth I yn nwy ran y Tripos Mathemateg, ac yn 1909 etholwyd ef yn fyfyriwr ymchwil Isaac Newton yn y National Solar Physics Observatory.
Ar ôl gadael Caergrawnt bu'n darlithio am flwyddyn ar fathemateg ym Mhrifysgol Birmingham, ac am ddwy flynedd arall mewn swydd gyffelyb yng Ngholeg Hyfforddi Caerllion. Yno, yn 1915, priododd Claudia Mary Elizabeth, merch W. Roberts, Nant-y-glo, cyd-ddisgybl iddo yn Abertyleri ac Aberystwyth. Bu iddynt un mab a fu farw yn ddibriod.
Daeth y trobwynt mawr yng ngyrfa David Brunt pan ymrestrodd yn 1916 yn Adran Feteorolegol catrawd y Peirianwyr Brenhinol. Cyflawnodd waith pwysig ym mlynyddoedd y Rhyfel ynglŷn ag amodau hinsoddol ar lefelau isel mewn rhyfel cemegol, ac ar lefelau uwch wedi iddo fynd yn feteorolegydd i'r Llu Awyr. Enwyd ef droeon mewn cadlythyrau. Daeth yn rhagolygydd medrus, ac wedi ei ryddhau o'r lluoedd gwahoddwyd ef i fynd i'r Swyddfa Feteoroleg a ddaeth yn Weinyddiaeth Awyr yn 1921. Ni chaniataodd i'w ddyletswyddau swyddogol dorri ar ei waith ymchwil personol. Derbyniodd wahoddiad Syr Napier Shaw i ymuno ag ef fel athro rhan-amser mewn meteoroleg yn Imperial College of Science and Technology, Llundain. Ar ymddeoliad Syr Napier daeth Brunt yn athro llawn-amser (y cyntaf mewn meteoroleg ym Mhrydain). Daliodd y gadair o 1934 i 1952, ac etholwyd ef ddwy flynedd yn ddiweddarach yn Gymrawd o'r Coleg.
Yn ystod ei yrfa academaidd ysgrifennodd 58 o bapurau gwyddonol a 5 llyfr pwysig - Combination of observations (1917), Meteorology (1928), Physical and dynamical meteorology (1934), Weather science for everybody (1936) a Weather study (1942). Ef oedd llywydd y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol, 1942-44, a dyfarnwyd iddo Wobr Buchan a Medal Aur Symons. Bu'n llywydd y Gymdeithas Ffisegol, 1945-47. Ymddiddorai mewn pynciau perthnasol i Feteoroleg yn yr ystyr eangaf. Bu'n gadeirydd y British Gliding Association, ac yn gadeirydd yr Electricity Supply Research Council, 1952-59. Etholasid ef yn F.R.S. mor gynnar ag 1939, a dyfarnwyd Medal Aur y Gymdeithas Frenhinol iddo yn 1944. Rhoes wasanaeth mawr iddi fel ysgrifennydd tra effeithiol, 1948-57, ac fel is-lywydd, 1949-57. Urddwyd ef yn farchog yn 1949 ac yn K.B.E. yn 1959.
Syr David Brunt, yn ddiamau, oedd meteorolegydd enwocaf hanner cyntaf yr 20fed ganrif, pan oedd y pwnc yn newid o fod yn wyddor ddisgrifiadol bron i fod yn wyddor seiliedig fwyfwy ar gysyniadau mathemategol, ac ar yr un pryd yn newid o ddibyniaeth ar sylwadaeth seiliedig ar y ddaear i ddibynnu ar ddata o'r awyr uchaf. Derbyniodd radd Sc.D. (Caergrawnt) yn 1940, D.Sc. er anrhydedd Prifysgol Llundain, 1960, ac anrhydedd cyffelyb gan Brifysgol Cymru, 1951. Bu farw 5 Chwefror 1965.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.