Ganwyd yn y Gwynfryn, Bwlch-gwyn, ger Wrecsam, Sir Ddinbych, 24 Tachwedd 1881, yn fab i John Carrington (disgynnydd i un o'r teuluoedd a ymfudodd o Gernyw erbyn dechrau'r 19eg ganrif i weithio i'r Mwynglawdd, sir Ddinbych) a Winifred (ganwyd Roberts), brodor o Fryneglwys. Treuliodd flynyddoedd cyntaf ei oes yn y Gwynfryn, a'i addysgu yn ysgol Bwlch-gwyn. Ar ôl gadael yr ysgol fe'i prentisiwyd yn argraffydd gyda chwmni Hughes a'i Fab, Wrecsam. Priododd yn 1905 â Mildred Mary Jones, Minera, a symud i fyw i Goed-poeth, lle y bu'n dilyn ei grefft fel argraffydd ac fel cyhoeddwr cerddoriaeth.
O'i blentyndod cynnar yr oedd yn amlwg fod ganddo ddawn arbennig fel cerddor. Yn naw oed fe'i penodwyd yn organydd gyda'r Methodistiaid Wesleaidd yn y Gwynfryn, a bu yn y swydd honno am oddeutu 15 mlynedd gan astudio cerddoriaeth yn ei oriau hamdden trwy gyfrwng nodiant y Tonic Sol-ffa a chyda Morton Bailey yn Wrecsam. Mewn cyfnod diweddarach treuliodd dros hanner canrif yn organydd yn eglwys Rehoboth (EF), Coed-poeth, a dod yn ffigur pur amlwg fel beirniad eisteddfod, arweinydd a chyfansoddwr. Bu'n olygydd cerdd Y Winllan a'r Eurgrawn, ac ef oedd ysgrifennydd y pwyllgor a ofalai am gynnwys cerddorol Llyfr emynau a thonau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd (1929). Yr oedd hefyd yn eisteddfodwr pybyr, a gwasanaethodd fel ysgrifennydd cyffredinol Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933. Ei brif weithiau cerddorol yw Concwest Calfari (anthem SATB 1912), Hen weddi deuluaidd fy nhad (unawd contralto/bariton 1910) a Gwynfryn a Bryn-du (tonau cynulleidfaol). Ef hefyd yw awdur y llawlyfr Yr Ysgol Gân (Gee, 1957) a Doniau Da (1955) sy'n cynnwys nifer o'i donau a'i ganiadau gwreiddiol, yn ogystal â threfniadau ganddo o emyn-donau.
Bu farw yn ei gartref yng Nghoedpoeth, 6 Mai 1961. Yn 1963 dadorchuddiwyd llechen i'w goffáu yn eglwys Rehoboth, Coed-poeth.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.