Ganwyd 2 Rhagfyr 1884 yn Birmingham yn fab Arthur James Cox a'i wraig Mary. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Edward VI yn Birmingham, ac yna ym Mhrifysgol Birmingham lle y graddiodd yn B.Sc. yn 1904 ac M.Sc. yn 1905. Enillodd raddau uwch Ph.D. Strassburg a D.Sc. Birmingham. Yr oedd yn F.G.S. a dyfarnwyd iddo fedal Lyell y Gymdeithas Ddaearegol yn 1948. Dechreuodd ei yrfa'n ddarlithydd mewn daeareg yn C.P.C. Aberystwyth yn 1909, ond symudodd i King's College Llundain y flwyddyn ganlynol. Yr oedd yn aelod o'r Arolwg Ddaearegol yn 1917 ond penodwyd ef yn Athro Daeareg yn C.P.C. yng Nghaerdydd yn 1918, swydd a ddaliodd nes ymddeol yn 1949. Bu'n gweithio ar arfordir Penfro a Chader Idris gan ehangu'r wybodaeth am losgfynyddoedd y cyfnod Ordofigaidd, ond ei gyfraniad mwyaf oedd ei astudiaeth o strwythur daearegol de Cymru. Sylweddolodd yn gynnar bwysigrwydd economaidd yr wybodaeth ddaearegol a ddôi i'r amlwg, e.e. yn yr ymchwil i amodau cronfeydd olew a mwynau, ac yr oedd ei ymchwil i achosion clefyd y llwch o arwyddocâd arbennig. Bu'n flaenllaw hefyd yn natblygiad Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Priododd Florence Elizabeth Page yn 1919. Bu farw yng Nghaerdydd, 14 Chwefror 1961.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.