Ganwyd yn Llanbedr Pont Steffan, 8 Awst 1873, yn fab i David a Margaret Davies (hi oedd yr hynaf o drigolion y dre honno pan fu farw 28 Rhagfyr 1937). Cafodd ei addysg yn ei dref enedigol. Ef oedd rheolwr y Wasg Eglwysig Gymreig yn Llanbedr Pont Steffan a chwmni Grosvenor a Chater, Llundain (1909-19), rheolwr a chyfarwyddwr cwmni William Lewis, argraffwyr, Caerdydd, a chwmni Davies, Harvey a Murrell, masnachwyr papur, Llundain. Bu'n llywydd Cynghrair Argraffwyr De Cymru a Mynwy, 1935-36. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Clwb Rotari Caerdydd. Cafodd radd M.A. Prifysgol Cymru er anrhydedd yn 1947 am ei wasanaeth dros gyhoeddi llyfrau a chyfnodolion yn ymwneud â Chymru, ac yn arbennig dros y cyfryw yn yr iaith Gymraeg. Bu farw 5 Tachwedd 1955; cynhaliwyd gwasanaeth angladdol yn eglwys Dewi Sant, Caerdydd, cyn cymryd ei gorff i amlosgfa Thornhill ar 9 Tachwedd
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.