Ganwyd 18 Ionawr 1897 yng Nglynceiriog, Dinbych, unig fab Isaac Davies, gweinidog (MC). Symudodd ei dad i Ryd-ddu, yna i Fryn-rhos, ac o'r diwedd i Fangor. Addysgwyd y mab yn ysgol sir Caernarfon ac ysgol Friars, Bangor. Cafodd ysgoloriaeth i Goleg Iesu, Rhydychen, ond torrodd y rhyfel ar draws ei efrydiau. Cofrestrodd ei hunan yn wrthwynebydd cydwybodol a bu'n gweithio ar y tir yn Llŷn. Dechreuodd bregethu y pryd hynny yn eglwys South Beach, Pwllheli. Dychwelodd i Rydychen wedi'r rhyfel, a chafodd yrfa ddisglair yno-graddio ddwywaith, a chael ail ddosbarth yn y clasuron, hanes ac athroniaeth, a gradd yn y dosbarth cyntaf mewn diwinyddiaeth. Cafodd radd B.D. am waith ymchwil - ef oedd yr ymneilltuwr cyntaf i ddod â gradd felly yn Rhydychen i Gymru. Daeth yn ysgolor o'i goleg a chynigiwyd cymrodoriaeth iddo a'i benodi'n athro diwinyddiaeth yn y Brifysgol. Ond gan fod ei fryd ar bregethu gyda'r Presbyteriaid ni allai gydymffurfio â'r amodau, sef ymaelodi yn Eglwys Loegr.
Ordeiniwyd ef yn 1923, a bu'n gweinidogaethu yn eglwysi Shirland Road, Llundain (1923-26), a Cathedral Road, Caerdydd (1926-28), Priododd, yn 1925, Margaret Evelyn Palmer, a ganwyd un mab o'r briodas. Penodwyd ef yn 1928 yn athro hanes crefyddau ac athroniaeth crefydd yn y Coleg Diwinyddol, Aberystwyth, ond ymddiswyddodd yn 1933 o ganlyniad i helynt blin. Yr oedd yn amlwg fod rhyw amhariad ar ei feddwl, a phersonoliaeth hollt ydoedd yn ystod gweddill ei oes. Crwydrodd o le i le, a bu'n trigiannu yng Nghastell-nedd ac ym Machynlleth. Bu'n byw mewn un neu ddwy o ardaloedd eraill fel aelod o staff Y Cymro; bu'n gofalu (am ychydig fisoedd) am eglwysi gofalaeth Llangadfan ym Maldwyn, eithr profedigaethus oedd ei helynt yno. Symudodd, o'r diwedd, i Landrindod, a chael cyfle gan eglwys Ithon Road i'w adfeddiannu ei hunan; yno y bu farw 7 Gorffennaf 1969. Casglodd ei ffrindiau a'i edmygwyr swm o arian i godi cofadail ar ei feddrod.
Yr oedd W.D. Davies yn bersonoliaeth hoffus, yn ysgolhaig o'r radd flaenaf, ac yn bregethwr ar ei ben ei hun. Yr oedd ganddo gymwysterau arbennig ar gyfer gofynion blynyddoedd canol yr 20fed ganrif. Disgleiriodd hefyd fel awdur a allai dynnu'n rhwydd o holl ffynhonnau dysg a llên. Cyhoeddodd rai llyfrau ar bynciau crefyddol, sef Cristnogaeth a meddwl yr oes (1932), Datblygiad Duw (1934), a llawlyfr treiddgar a darllenadwy ar yr Epistol at yr Effesiaid (1933). Yn ystod ei gyfnod 'crwydrol' ymddiddorodd yn yr ysgrif a barddoni-dyma'r pryd y dechreuodd alw'i hunan yn W.D.P. Davies, ond ni wyddai neb beth oedd y 'P' hwnnw! [Dywedai ef mai sefyll am 'Pechadur' yr oedd y 'P', ond hwyarch mai cyfenw morwynol ei wraig oedd y ffynhonnell.] Cyhoeddodd Y diafol i dalu (1948), a Tannau telyn crwydrol (1953). Colled anaele i Fethodistiaeth Galfinaidd, ac i Gymru 'n gyffredinol, fu'r ddeuoliaeth a wnaeth y fath chwalfa ar ei bersonoliaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.