DAVIES, CLEMENT EDWARD (1884 - 1962), gwleidydd

Enw: Clement Edward Davies
Dyddiad geni: 1884
Dyddiad marw: 1962
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 19 Chwefror 1884 yn Llanfyllin, yr ieuengaf o saith plentyn Moses Davies, arwerthwr, ac Elizabeth Margaret (ganwyd Jones), ei wraig. Addysgwyd ef yn yr ysgol elfennol leol ac enillodd ysgoloriaeth i ysgol sir Llanfyllin pan agorwyd hi yn 1897. Aeth i Gaergrawnt ac ymaelodi yn Neuadd y Drindod. Cafodd ddosbarth I yn nwy ran y tripos yn y gyfraith yn 1906-07 ac ennill nifer o wobrwyon. Bu'n ddarlithydd yn y gyfraith yn Aberystwyth 1908-9 cyn ei alw i'r Bar yn Lincoln's Inn ac ymgysylltu â chylchdaith Gogledd Cymru yn 1909 a symud wedyn ymhen blwyddyn i gylchdaith Gogledd Lloegr. Bu'n llwyddiannus iawn yn ei yrfa ac fel y gellid disgwyl o ystyried ei dras, cyhoeddodd lyfrau ar gyfraith amaethyddiaeth a'r gyfraith ar arwerthiannau ac arwerthwyr.

Ar ddechrau Rhyfel Byd I dewiswyd ef yn gynghorydd ar weithgareddau'r gelyn mewn gwledydd niwtral ac ar y môr. Symudwyd ef i'r Bwrdd Masnach i fwrw golwg ar fasnachu gyda'r gelynion. Bu'n ysgrifennydd i lywydd adran Profiant, Ysgar a'r Morlys, 1918-19, ac i Feistr y Rholiau 1919-23. Yn y deugeiniau bu ei brofiad yn y swyddi hyn a'i gyngor parod a ffafriol i gael gosod ewyllysiau Cymru a chofnodion y Sesiwn Fawr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o werth mawr i awdurdodau'r Llyfrgell. O 1919 i 1925 bu'n gwnsler i'r Trysorlys a dod yn K.C. yn 1926. Bu'n gadeirydd Sesiynau Chwarter Maldwyn o 1935 hyd ei farwolaeth. Bu ar Fwrdd Unilever 1930-41, a pharhaodd i'w gynghori ar ôl hynny.

Yn 1929 etholwyd ef yn A.S. dros Faldwyn fel Rhyddfrydwr a pharhaodd i gynrychioli'r sir dros weddill ei oes. Yn 1931 ymunodd ag adran y Rhyddfrydwyr Cenedlaethol ond dychwelodd at y Blaid Ryddfrydol annibynnol yn 1941. Yng nghyfnod Rhyfel Byd II yr oedd yn un o gefnogwyr pybyr y glymblaid. Yn 1945 gwnaethpwyd ef yn gadeirydd y Blaid Ryddfrydol a daliodd y swydd hyd 1956. Yr oedd yn ymladdwr cadarn dros ryddid a chyfiawnder cymdeithasol.

Etholwyd ef yn gymrawd er anrhydedd o Neuadd y Drindod yn 1950 ac yn feinciwr yn Lincoln's Inn yn 1953. Derbyniodd ryddfraint y Trallwng yn 1955 a rhoes Prifysgol Cymru radd LL.D. er anrhydedd iddo yn 1955. Bu farw yn Llundain 23 Mawrth 1962 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Meifod.

Priododd yn 1913 Jano Elizabeth (bu farw 27 Rhagfyr 1969) merch fabwysiedig Morgan Davies, meddyg poblogaidd gan y Cymry yn Llundain a ysgrifennodd lawer i'r papurau Cymraeg o dan yr enw ' Teryll y Bannau '. Bu iddynt dri mab ac un ferch ond un o'r meibion yn unig a'u goroesodd; collwyd tri yn 24 oed, un mab trwy ddamwain a’r ferch trwy hunanladdiad. Yr oedd ei wraig yn siaradwr cyhoeddus ardderchog a bu'n gefn iddo yn ei yrfa wleidyddol. Jano Elizabeth Davies oedd yr ieuengaf o ysgolfeistri Llundain yn ei dydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.