DAVIES, ELLIS (1872 - 1962), offeiriad a hynafiaethydd

Enw: Ellis Davies
Dyddiad geni: 1872
Dyddiad marw: 1962
Priod: Mary Louisa Davies
Rhiant: Ellis Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 22 Medi 1872 yn fab Ellis Davies, garddwr yn Nannerch, Fflint, ond cyn bo hir symudodd y teulu i Laniestyn, Llŷn. Aeth i ysgol ramadeg Botwnnog a chafodd ysgoloriaeth i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn 1892 lle yr enillodd wobrau bob blwyddyn. Ar ôl graddio a'i ordeinio yn 1895 bu'n gurad yn Llansilin, Colwyn a S. Giles, Rhydychen. Tra oedd yno cafodd radd B.A. (1907) yng Ngholeg Worcester a chychwynnodd ei astudiaethau ar gyfer gradd M.A. (1911). Bu hefyd yn gaplan Coleg Iesu ac Ysbyty Radcliffe. Penodwyd ef yn ficer Llanddoged, Sir Ddinbych yn 1909 a rheithor Chwitffordd, sir Fflint yn 1913, lle y bu nes iddo ymddeol yn 1951. I gydnabod ei wasanaeth hir ac ymroddedig i'r Eglwys cafodd ganoniaeth yn Llanelwy 1937-46, a bu'n ganghellor yr esgobaeth 1944-47. Er iddo gyfansoddi nifer o emynau a siantiau, ym maes archaeoleg y daeth yn fwyaf adnabyddus. Yn 1913, ymunodd â Chymdeithas Hynafiaethau Cymru ac ennill gwobr yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni am lawlyfr ar weddillion Prydeinig a Rhufeinig yn sir Ddinbych a gyhoeddwyd yn 1929 wedi iddo wneud rhagor o ymchwil yn y sir. Enillodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Corwen yn 1919 am draethawd ar enwau lleoedd Sir Feirionnydd. Yn 1956 dyfarnwyd iddo wobr G.T. Clark (a gynigir am ymchwil i hanes Celtaidd) am ei waith a gyhoeddwyd yn The prehistoric and Roman remains of Flintshire (1949). Yr oedd hefyd yn awdur Llyfr y proffwyd Hosea (1920), Flintshire place names (1959) a llawer o erthyglau yn Yr Haul, Y Llan, Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 a chyfnodolion cymdeithasau hanes. Bu'n gydolygydd Archaeologia Cambrensis o 1925 hyd 1940 ac yn olygydd wedyn hyd 1948. Yn 1929 etholwyd ef yn Gymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr (F.S.A.) ac yn 1959 cafodd D.Litt. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.

Priododd Mary Louisa (marw 27 Mai 1937), merch y Parchg. David Davies, Llansilin. Bu farw 3 Ebrill 1962 ym Mryn Derwen, Caerwys, Fflint, gan adael tri mab a thair merch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.