Cywiriadau

DAVIES, HUGH EMYR (1878 - 1950), gweinidog (MC) a bardd

Enw: Hugh Emyr Davies
Dyddiad geni: 1878
Dyddiad marw: 1950
Priod: Sydney Elizabeth Davies (née Hughes)
Rhiant: Annie Davies
Rhiant: Tudwal Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC) a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 31 Mai 1878 ym Mrynllaeth, Aber-erch, Sir Gaernarfon, mab Tudwal ac Annie Davies. Addysgwyd ef yn ysgol sir Pwllheli, ysgol Clynnog, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth a Choleg y Bala. Ordeiniwyd ef yn 1909, a bu'n gweinidogaethu yn Llanddona, Môn (1920-29). Priododd, 1910, Sidney Hughes o'r Bala, a bu iddynt un ferch. Ar ôl ymddeol bu'n byw yng Nghaergybi ac ym Mhorthaethwy. Bu farw 21 Tachwedd 1950 yn Llandegfan.

Yr oedd yn bregethwr melys i'w ryfeddu, ond fel bardd y daeth i amlygrwydd. Enillodd gadair ym Mhwllheli pan oedd yn 16 mlwydd oed, ac ar ôl hynny cipiodd 22 o gadeiriau eisteddfodol. Meistrolodd y cynganeddion, ond yn y mesurau rhydd y rhagorai. Cyhoeddwyd casgliad o'i weithiau yn 1907 dan y teitl Llwyn Hudol. Cafodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon (1906) am bryddest, ' Branwen ferch Llŷr '; a thrachefn yn Llangollen (1908) am bryddest, ' Owain Glyndŵr '. Enillodd hefyd gadair Eisteddfod Genedlaethol America yn 1929. Bu'n beirniadu ar gystadleuaeth y goron droeon yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

DAVIES, HUGH EMYR (1878 - 1950), gweinidog (MC) a bardd

Ganwyd 31 Mai 1878 ym Mrynllaeth, Aber-erch, Caernarfon, mab Tudwal ac Annie Davies. Addysgwyd ef yn ysgol sir Pwllheli, Ysgol Clynnog, C.P.C., Aberystwyth a Choleg y Bala. Ordeiniwyd ef yn 1909, a bu'n gweinidogaethu yn Llanddona, Môn (1909-12), Lodge, Brymbo a'r Frith (1912-20), a Llanfechell, Môn (1920-29). Yr oedd yn bregethwr melys i'w ryfeddu, ond fel bardd y daeth i amlygrwydd. Enillodd gadair ym Mhwllheli pan oedd yn 16 mlwydd oed, ac ar ôl hynny cipiodd 22 o gadeiriau eisteddfodol. Meistrolodd y cynganeddion, ond yn y mesurau rhydd y rhagorai. Cyhoeddwyd casgliad o'i weithiau yn 1907 dan y teitl Llwyn Hudol. Cafodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon (1906) am bryddest, ' Branwen ferch Llŷr '; a thrachefn yn Llangollen (1908) am bryddest, ' Owain Glyndŵr '. Enillodd hefyd gadair Eisteddfod Genedlaethol America yn 1929. Bu'n beirniadu ar gystadleuaeth y goron droeon yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Priododd, 1910, Sydney Hughes o'r Bala, a bu iddynt un ferch. Ar ôl ymddeol bu'n byw yng Nghaergybi ac ym Mhorthaethwy. Bu farw 21 Tachwedd 1950 yn Llandegfan.

Awdur

  • Y Parchedig Gomer Morgan Roberts, (1904 - 1993)

    Ffynonellau

  • Who's who in Wales (1937)
  • Blwyddiadur y Methodistiaid Calfinaidd, 1951, 250-1
  • Y Goleuad, 13 Rhagfyr 1950

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.