DAVIES, GWILYM (1879 - 1955), gweinidog (B), hyrwyddwr dealltwriaeth ryngwladol; sylfaenydd Neges Heddwch Plant Cymru

Enw: Gwilym Davies
Dyddiad geni: 1879
Dyddiad marw: 1955
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (B), hyrwyddwr dealltwriaeth ryngwladol; sylfaenydd Neges Heddwch Plant Cymru
Maes gweithgaredd: Crefydd; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 24 Mawrth 1879 yn Nghwmfelin, Bedlinog, Morgannwg (lle mae cofeb iddo), yn un o feibion D.J. Davies, gweinidog (B). Yr oedd yn ddisgybl-athro ym Medlinog pan symudodd ei dad i gyffiniau Llangadog ac aeth yn ddisgybl i ysgol ramadeg Llandeilo. Dechreuodd bregethu mor gynnar ag 1895, a pharatôdd ei hun at y weinidogaeth yn y Midland Baptist College, Nottingham, ac yng Ngholeg Rawdon. Yno enillodd ysgoloriaeth Pegg a'i galluogodd i fynd i Goleg Iesu, Rhydychen, lle y graddiodd. Tra oedd yn Rhydychen golygodd The Baptist Outlook. Yn 1906 ordeiniwyd ef yn weinidog yn Broadhaven, Penfro, a'r flwyddyn honno priododd (1) Annie Margaretta Davies ond bu hi farw 3 Rhagfyr 1906 a'u mab bedwar mis yn ddiweddarach; claddwyd hwy ym mynwent Cwmifor (B), Maenordeilo, Sir Gaerfyrddin. Wedi hynny bu'n weinidog yng Nghaerfyrddin, 1908-15; Y Fenni, 1915-19; a Llandrindod 1919-22. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Ysgol Gwasanaeth Cymdeithasol yng Nghymru yn 1911, a dangosodd wreiddioldeb fel ysgrifennydd, cadeirydd a llywydd y mudiad. Yr oedd eisioes yn adnabyddus am iddo sefyll dros iawnderau bechgyn o'r ysgolion diwygio na chaent eu trin yn deg bob amser gan eu cyflogwyr.

Yn 1922 ymddeolodd o'r weinidogaeth i hyrwyddo heddwch rhyngwladol. Cychwynnodd ef ac (Arglwydd) David Davies adran Gymreig Undeb Cynghrair y Cenhedloedd gyda'i chanolfan yn Aberystwyth a bu'n gyfarwyddwr o'r cychwyn (1922-45). Cynhaliwyd cynadleddau blynyddol (1922-39) yng Ngregynog ar addysg ryngwladol hyd nes i Gynghrair y Cenhedloedd chwalu. Yn ystod y rhyfel gofynnwyd i'r Pwyllgor Addysg Gymreig lunio o dan ei gyfarwyddyd ef gyfansoddiad mudiad addysg ryngwladol. Ar y cynllun a gyflwynodd Gwilym Davies y seiliwyd cyfansoddiad UNESCO. Ond cofir ef yn bennaf am gychwyn yn 1922 neges heddwch plant Cymru i blant y byd a ddarlledir yn awr ar y radio ar 18 Mai. Yn ddamweiniol, ef oedd y cyntaf i ddarlledu yn Gymraeg, a hynny ar Ddydd Gŵyl Dewi 1923. Defnyddiodd y sinema, radio a'r wasg i hyrwyddo'i waith. Ymddangosodd llawer o erthyglau pwysig ganddo yn Welsh Outlook, Yr Efrydydd, ac yn Y Traethodydd (lle yr ymddangosodd ei erthygl ddadleuol ar Blaid Cymru yn 1942). Casglwyd rhai ohonynt yn Y Byd ddoe a heddiw (1938). Cyhoeddodd International education in the schools of Wales and Monmouthshire (1926), The Ordeal of Geneva (1933), Intellectual cooperation between the Wars (1943), a The Gregynog conferences on international education 1922-37 (1952), yn ogystal ag adroddiadau blynyddol cyngor cenedlaethol Cymru o Undeb Cynghrair y Cenhedloedd, 1923-39, ac o Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig, 1943-46. Gwnaethpwyd ef yn C.B.E. yn 1948, a derbyniodd radd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1954.

Bu ei iechyd yn fregus ers dyddiau coleg. Treuliodd lawer o'i fywyd yng Nghaerdydd a Genefa, ac aeth ei waith ag ef i bob rhan o'r byd. Priododd (2) ar 24 Ionawr 1942 â Mary Elizabeth Ellis, Dolgellau (yr ail wraig i gael ei phenodi'n arolygwr ysgolion yng Nghymru; cafodd ganiatâd i briodi ac i ddal ei swydd hyd 1943). Cartrefasant yn 8 Rhodfa'r Môr, Aberystwyth. Bu ef farw 29 Ionawr 1955 a gwasgarwyd ei lwch ger Trwyn Larnog, Penarth, lle y trosglwyddwyd y negeseuau radio cyntaf ar draws y dŵr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.