Ganwyd 24 Mai 1893 yn Abersychan, Mynwy, ac addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Gorllewin Mynwy, Pontypŵl. Yn bymtheg oed enillodd ysgoloriaeth agored Sainton i astudio'r ffidil yn yr Academi Gerdd Frenhinol; bu'n ddisgybl i Hans Wessely ac yn Dresden i Leopold Auer. O 1919 i 1923 bu'n aelod o'r triawd offerynnol a sefydlwyd gan Henry Walford Davies, yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn 1923 ef oedd blaenwr y Gerddorfa Simffoni Gymreig. Clywodd Henry Wood ef a'i berswadio i ymuno â Cherddorfa Neuadd y Frenhines yn Llundain. Rhwng 1924 ac 1934 bu'n chwarae yno, yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, a chyda Cherddorfa Simffoni Llundain. O 1927 bu hefyd yn athro ffidil a fiola, ac yn aelod o'r triawd offerynnol yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Dychwelodd yn 1934 i Aberystwyth i ddysgu yn y Coleg yno ac i flaenu pedwarawd offerynnol y Coleg. Yn 1950 penodwyd ef yn diwtor ffidil, cyfansoddi a cherddorfa yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd. Cyfansoddodd yn helaeth, yn ganeuon a gweithiau corawl ac offerynnol, gan gynnwys yn 1945 waith comisiwn i Gerddorfa Simffoni Düsseldorf. Priododd Hannah May Reynolds, a bu iddynt ddau fab. Bu farw yng Nghaerdydd 27 Hydref 1965.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.