DAVIES, IDRIS (1905 - 1953), glöwr, ysgolfeistr a bardd Eingl-Gymreig

Enw: Idris Davies
Dyddiad geni: 1905
Dyddiad marw: 1953
Rhiant: Elizabeth Ann Davies
Rhiant: Evan Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: glöwr, ysgolfeistr a bardd Eingl-Gymreig
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Addysg; Barddoniaeth
Awdur: Islwyn Jenkins

Ganwyd 6 Ionawr 1905 yn 16 Field Street, Rhymni, Mynwy; mab i ddirwynwr mewn gwaith glo, Evan Davies, a'i wraig Elizabeth Ann. Y Gymraeg oedd iaith yr aelwyd.

Wedi gadael yr ysgol yn bedair ar ddeg oed bu'n gweithio am y saith mlynedd nesaf fel glöwr ym mhyllau lleol Abertyswg a Rhymni Maerdy. Ar ôl damwain pryd y collodd fys, a chymryd rhan weithgar amlwg yn streic gyffredinol 1926, bu'n ddi-waith a threuliodd y pedair blynedd nesaf wrth yr hyn a alwai 'the long and lonely self-tuition game'. Yna aeth i goleg hyfforddi Loughborough a Phrifysgol Nottingham fel darpar athro, ac wyth mlynedd yn ddiweddarach enillodd ddiploma Prifysgol Llundain mewn hanes. Rhwng 1932 a 1947 bu'n dysgu yn ysgolion cyngor sir Llundain ac mewn ysgolion a oedd wedi gadael Llundain adeg y rhyfel i Pytchley Swydd Northampton, Meesden, Swydd Hertford, Treherbert (Morgannwg) a Llandysul (Ceredigion). Yn 1947 dychwelodd i Gwm Rhymni ei febyd i ddysgu mewn ysgol plant iau yng Nghwmsyfiog, i ddarlledu, darllen, darlithio ac ysgrifennu tan iddo farw o gancr yn 7 Victoria Road, Rhymni, ddydd Llun y Pasg, 6 Ebrill 1953.

Yn ystod ei oes cyhoeddodd bedair cyfrol o'i farddoniaeth: Gwalia Deserta (1938), a ysgrifennwyd yn Rhymni; The angry summer: a poem of 1926 (1943), gwaith tri mis ym Meesden; Tonypandy and other poems (1945), a ysgrifennwyd yn ystod yr arhosiad byr yn Nhreherbert : a Selected poems (1953), wedi'u dethol gan T. S. Eliot, a oedd o'r farn fod gan gerddi Idris Davies hawl i barhad fel 'the best poetic document I know about a particular epoch in a particular place'.

Yr oedd ei waith, mewn Cymraeg a Saesneg, yn adlewyrchu delfrydiaeth a gwrthwynebiad pobl mewn cyfnod o newid economaidd, cymdeithasol a chrefyddol dirfawr, yn enwedig dechreuad, twf a dadfeiliad hen dref haearn a glo Rhymni, sir Fynwy.

Wedi iddo farw cyflwynwyd dros ddau gant o'i gerddi llawysgrif a drama fydryddol fer, ynghyd â chopïau teipysgrif o'i ddyddiaduron cynhwysfawr o flynyddoedd y rhyfel, i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Yn nes ymlaen, darganfuwyd rhagor o'i gerddi anghyhoeddedig a'r rhan fwyaf o'i ryddiaith: nofel heb ei gorffen, traethodau, nodiadau darlithiau a rhai o'i lythyrau. Ymddangosodd peth o'r deunydd diweddar hwn yn The collected poems of Idris Davies (1972), [ Dafydd Johnston, The Complete Poems of Idris Davies (1994)], Islwyn Jenkins, Idris Davies (Writers of Wales; 1972), ac Argo Record No. ZPL. 1181: Idris Davies (1972).

Meddai wybodaeth eang o farddoniaeth, ond ni ddilynodd unrhyw ffasiwn lenyddol boblogaidd. Daeth i gael ei ystyried yn gynrychiolydd barddoniaeth cymoedd glo De Cymru yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/