Ganwyd 16 Ebrill 1877 yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin, mab Rhys Davies, gweithiwr yn y diwydiant alcam, a brodor o Abergorlech, ac Ann (ganwyd Griffiths), ei wraig, a hanai o Brechfa, ac a fu farw yn 34 blwydd oed wedi geni 11 o blant. Addysgwyd Rhys John yn ysgolion elfennol cenedlaethol a Phrydeinig Llangennech, cyn mynd am dair blynedd yn was ffarm ger ei gartref. Yna symudodd i Gwm Rhondda at ei frawd a gweithio am ddeng mlynedd mewn pyllau glo yn Ferndale a Thonpentre. Yn 1901 fe'i penodwyd yn gyfrifydd i gymdeithas gydweithredol y Ton. Ymroddodd i drefnu'r Amalgamated Union of Co-operative Employees yn ne Cymru. Symudodd i Fanceinion yn 1906 yn swyddog amser llawn i'r undeb hwnnw, a adwaenid yn ddiweddarach fel NUADW (National Union of Allied and Distributive Workers). Yn 1910 cyhoeddodd ar y cyd â Joseph Hallsworth (a urddwyd yn farchog yn ddiweddarach, ac a ddaeth yn un o arweinwyr enwocaf yr undebau llafur) lyfr dan y teitl The working life of shop assistants yn trafod cyflogau isel ac amodau gwaith truenus gweithwyr y diwydiant hwnnw. Yr oedd yn awdurdod ar yswiriant cymdeithasol ac ar ôl i ddeddf yswiriant cenedlaethol ddod i rym yn 1911 arbenigodd ymhellach ar y wedd hon ar waith yr undeb, a daeth yn ysgrifennydd 'cymdeithas gydnabyddedig' y NUADW. Yr oedd yn aelod cynnar o'r I.L.P. ac ymdaflodd yn frwd i weithgareddau'r mudiadau llafur ac undebol ym Manceinion. Yn 1913 etholwyd ef ar gyngor y ddinas ac yn ystod y deng mlynedd nesaf bu'n aelod o'r awdurdod addysg ac o bwyllgor yswiriant Manceinion. Bu'n llywydd Plaid Lafur etholaeth Manceinion a Salford, cyngor undebau Llafur Manceinion a Salford, a Phlaid Lafur etholaeth Withington. Yn 1918 bu'n ymgeisydd Llafur aflwyddiannus yn West Salford, ond enillodd sedd Westhoughton mewn is-etholiad yn 1921, a'i chadw hyd ei ymddeoliad o'r Senedd yn 1951. Yn 1924 fe'i penodwyd yn is-ysgrifennydd yn y Swyddfa Gartref yn llywodraeth gyntaf y Blaid Lafur. Cyflawnodd ei orchwylion yn fedrus a chydwybodol ond nid oedd bod yn weinidog y Goron yn gydnaws â'i anian. Golygai fynych gyfaddawdu ag egwyddorion, peth nad oedd yn hawdd iddo. Deilliai ei sosialaeth yn fwy o deimlad crefyddol a dyngarol nag o ystyriaethau athrawiaethol. Yr oedd yn heddychwr digyfaddawd erioed. Yr oedd yn hynod boblogaidd yn ei etholaeth ymysg pobl a edmygai ei ddidwylledd a'i onestrwydd, serch iddynt anghytuno'n fynych â'i syniadau ar ddirwest a heddychiaeth. Daeth yn seneddwr dawnus ac yn feistr ar drefniadaeth y Tŷ. Bu am flynyddoedd lawer yn gyd-ysgrifennydd British Group of the Parliamentary Union ac yn 1945 etholwyd ef yn llywydd y corff hwnnw. Yn y cyswllt hwn, ac ar achlysuron eraill, ymwelodd â nifer fawr o wledydd y byd.
Er iddo fyw ym Manceinion am 45 mlynedd cyn ymddeol i Borthcawl cadwodd gysylltiad agos â'i famwlad ar hyd yr amser. Nid yn unig yr oedd yn siaradwr Cymraeg huawdl ond cyfrannai'n aml i'r cyfnodolion, yn enwedig i'r Cymro a'r Tyst. Cyhoeddodd ddetholiadau o'r erthyglau hyn mewn dwy gyfrol glawr-papur Y seneddwr ar dramp (1934) yn disgrifio ymweliadau â gwledydd tramor, a'i argraffiadau ohonynt, a Pobl a phethau, manion bywgraffyddol diddorol ac amryfal atgofion. Cyhoeddodd nifer o bamffledi, gan gynnwys Y Cristion a rhyfel (Pamphledi Heddychwyr Cymru III) yn 1941.
Yr oedd yn gerddor brwdfrydig ac arweiniai'r gân yn aml yn ei gapel, Bootle End (A), Manceinion. Gwahoddid ef ar brydiau i arwain cymanfaoedd canu yng Nghymru a Lloegr. Yn ystod streic y glowyr yn 1898 ffurfiodd gôr o 25 o leisiau yn y Rhondda i deithio'r wlad i gasglu arian i helpu teuluoedd y streicwyr.
Yn 1902 priododd â Margaret Ann Griffiths, athrawes gwyddor tŷ yn Nhonpentre, a bu iddynt dri mab. Brawd iddo oedd y bardd-bregethwr T. Cennech Davies (1875 - 1944; gweler David J. Thomas, Bywyd a gwaith Cennech Davies, 1949). Bu farw yn Mhorth-cawl 31 Hydref 1954. Collasai ei wraig ryw flwyddyn cyn hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.