DAVIES, HUGH MORRISTON (1879 - 1965), arloeswr amlycaf llawfeddygaeth y thoracs ym Mhrydain

Enw: Hugh Morriston Davies
Dyddiad geni: 1879
Dyddiad marw: 1965
Priod: Dorothy Lilian Davies (née Courtney)
Rhiant: William Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arloeswr amlycaf llawfeddygaeth y thoracs ym Mhrydain
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Emyr Wyn Jones

Ganwyd 10 Awst 1879 yn fab i Dr. William Davies, brodor o Abertawe, a oedd yn feddyg teulu yn Huntingdon. Addysgwyd ef yn Ysgol Caerwynt; Coleg y Drindod, Caergrawnt; ac yn Ysbyty Coleg y Brifysgol, Llundain. Ar ôl ennill rhai o'r gwobrau mwyaf clodforus graddiodd yn 1903. Sicrhaodd y graddau uwch o M.Ch. ac M.D. yng Nghaergrawnt yn 1907, a dilynwyd hyn gan F.R.C.S. yn 1908, a'r flwyddyn ganlynol fe'i hapwyntiwyd ar staff yr ysbyty.

Ar ôl cyfnod o ymchwil i'r broblem o adferiad nerflinynnau, trodd ei sylw at afiechydon yr ysgyfaint, ac ymweliad â Berlin yn 1910 a symbylodd ei ddiddordeb yn llawfeddygaeth y thoracs. Dwy fl. yn ddiweddarach nid yn unig fe leolodd dyfiant yn yr ysgyfaint gyda phelydrau-x, ond fe lwyddodd i'w symud ymaith, ac ef oedd y llawfeddyg cyntaf i gyflawni'r fath orchest. Dilynodd hyn gyda nifer o driniaethau newydd a thra gwerthfawr. Yr oedd y llwyfan wedi'i gosod ar gyfer gyrfa o addewid eithriadol, a hyd yn oed o gamp unigryw.

Mis Ionawr 1916 tra'n trin archoll heintiedig cafodd y profiad trychinebus o wenwyno ei law dde ei hun. O ganlyniad i ffyrnigrwydd yr heintiad yr oedd ei fywyd mewn perygl enbyd. Argymhelliad rhai o feddygon enwocaf Llundain oedd i'r claf ganiatáu iddynt drychu'r fraich. Gwrthododd Davies. Ar ôl triniaeth ar raddfa eang arbedwyd ei fywyd, ond y canlyniad oedd crafanc llurguniol o law ddiwerth, gyda'r arddwrn a'r penelin yn ansymudol. Yr oedd yn alaethus amlwg fod disgleirdeb ei yrfa wedi'i ddifodi, ac yntau ond 37 mlwydd oed. Yr oedd ei ymddeoliad o'r ysbyty yn anochel.

Cynigiodd yr ysbyty iddo swydd fel radiolegydd, ond yn 1918 penderfynodd Davies gyda dewrder anhygoel brynu Sanatorium Neuadd Llanbedr, ger Rhuthun, oherwydd byddai'n uniongyrchol gyfrifol am ei gleifion ei hun. Y flwyddyn ddilynol cyhoeddodd y gyfrol gyntaf yn Saesneg ar lawfeddygiaeth thorasig. Sylwodd bod angen triniaethau llawfeddygol ar nifer fawr o'i gleifion, a thrwy rym penderfyniad a dyfalbarhad addysgodd ei law chwith a'i law dde fethedig, i'w alluogi i ail-afael yn ei arbenigaeth gynnar.

Ymhen ychydig flynyddoedd daeth Llanbedr yn ganolfan a enynnai ddiddordeb byd-eang. Apwyntiwyd Davies yn ymgynghorydd i bob sanatoriwm yng Nghymru, ac yn fuan estynnwyd ei gyfrifoldebau clinigol i gynnwys swyddi Caerhirfryn a Chaer. Dibynnai ei enw da ar y ffaith yr ymgorfforai ynddo'i hun mewn modd eithriadol ddoethineb cytbwys y ffisigwr profiadol gyda deheurwydd anturus llawfeddyg, ac ar ben hynny ei ddawn ddigymar i ddadansoddi ffilmiau radiolegol. Canlyniad y fath gyflenwad o dalentau oedd i'w lyfrau a'i gyhoeddiadau eraill gael eu derbyn fel y gair terfynol.

Ychwanegodd Rhyfel Byd II yn aruthr at faich ei gyfrifoldeb. Ef a sefydlodd, ac a ddaeth yn Gyfarwyddwr Gwasanaeth Thorasig y Gogledd-Orllewin yn Ysbyty Broadgreen, Lerpwl. Yno bu ei gyfraniad fel athro clinigol ac arweinydd gweinyddol o bwys allweddol, a chyfwerth fu ei lwyddiant yn hyfforddi grŵp o lawfeddygon ifainc medrus i'w ddilyn. Parhaodd ei ymlynïad wrth y Ganolfan yn Broadgreen, mewn dull ymgynghorol, nes iddo gyrraedd ei bedwar ugain. Yna ymddeolodd i'w fwthyn yn Llanarmon-yn-Iâl, a pharhaodd yno i ymhyfrydu yn ei ardd er gwaethaf eiddilwch cynyddol.

Am gyfnod o hanner canrif a mwy mawr werthfawrogwyd ei lafur gan ei gydweithwyr, ac fe gafodd gydnabyddiaeth academaidd yn ogystal. Derbyniodd radd Ch.M. er anrhydedd gan Brifysgol Lerpwl yn 1943; rhoddwyd iddo Wobr Weber-Parkes gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr, Llundain, yn 1954; ac yn 1961 cyflwynwyd iddo LL.D. gan Brifysgol Cymru.

Dyn bychan o gorff ydoedd, dipyn yn wargam a'i ben ar un ochr. Yr oedd golwg braidd yn fregus arno a llefarai'n wastad mewn llais esmwyth ac uchel. Eto yr oedd yn berchen ynni a dewrder rhyfeddol, gyda gallu dihysbydd i weithio'n galed. Carai lyfrau, peintiadau a cherddoriaeth, a choleddai foduron mawr, nerthol a chyflym. Gŵr hawddgar a gwirioneddol fawr.

Priododd â Dorothy Lilian (bu farw 15 Hydref 1966), merch Dr. W.L. Courtney, a bu iddynt ddwy ferch. Bu farw yn Llanarmon-yn-Iâl 4 Chwefror 1965.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.