Ganwyd 6 Mehefin 1882, yn ffermdy Waunffynhonnau, Trimsaran, Sir Gaerfyrddin, mab i Stephen ac Anna Davies, Tre-lech. Symudodd y teulu i blwy Cilrhedyn, i fferm Morlogws Uchaf, yn 1884, ac y mae'r bumed genhedlaeth wedi parhau i ffermio yno. O 1886 hyd 1894 addysgwyd ef yn ysgol Pen-y-waun. Arhosodd gartref i weithio ar y fferm am ddwy fl. wedyn, gan ei fod yn rhy ifanc i fynd i ysgol y dref. Yn 1896 aeth i ysgol yr Hen Goleg, yn nhre Caerfyrddin, ac yna yn 1898 yn brentis ar y Carmarthen Journal, ac yn 1901 i Gwm Rhondda fel gohebydd i'r Western Mail. Symudodd i Gaerdydd yn 1903 yn is-olygydd ar y Western Mail, ac i Gaernarfon yn 1907 yn olygydd Yr Herald Cymraeg a'r Carnarvon and Denbigh Herald, yn olynydd i Daniel Rees.
Pan ddaeth y rhyfel yn 1914, cynigiwyd swydd is-olygydd iddo ar y Western Mail, ac fe'i derbyniodd. Yno y bu am rai blynyddoedd nes ei benodi'n olygydd y Weekly Mail. Parhaodd yn y swydd hon hyd 1949, ac eithrio ychydig o flynyddoedd yn y tri degau pan aeth yn ôl yn is-olygydd ar y Western Mail. Yn 1949 penodwyd ef yn hyfforddwr newyddiadurwyr ar staff y Western Mail nes iddo ymddeol dair blynedd yn ddiweddarach. Treuliodd 54 o flynyddoedd ym myd y wasg.
Pan oedd y radio'n datblygu, ysgrifennodd lawer o erthyglau technegol ar y pwnc i'r papur. Yn ddiweddarach, ysgrifennodd tua 50 o raglenni nodwedd yn Gymraeg, a darlledwyd hwy o orsaf Radio Cymru yng Nghaerdydd. Cyhoeddodd Atgofion dyn papur newydd yn 1962.
Yn 1909 priododd Jane Jones, merch hynaf Capten a Mrs. David Jones, Caernarfon, a bu iddynt un ferch. Bu farw 10 Hydref 1970.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.