Ganwyd 5 Ebrill 1881 yn y Felin Uchaf, Glanconwy, Sir Ddinbych, yn fab i Richard Davies a'i briod Eunice (ganwyd Williams). Priododd, 4 Medi 1909, â Margaret, merch Griffith R. Jones, gweinidog (B) Ffordd Las, Glanconwy, a ganwyd iddynt bump o blant, pob un yn ymddiddori yn y 'pethe'. Wedi byw am gyfnod yn Lerpwl ac yna yng Nglanconwy yn ei swydd fel tirfesurydd Conwy, symudodd H.T. Davies yn 1919 i Dywyn, Meirionnydd, lle treuliodd weddill ei oes fel pensaer, tirfesurydd a swyddog iechyd. Crefydd a cherddoriaeth oedd ei brif ddiddordebau, a rhoes gyfraniad sylweddol i'w gylch ac i'w genedl yn y ddau faes. Ef oedd un o sylfaenwyr Cymdeithas Cerdd Dant Cymru ar 10 Tachwedd 1934, a bu'n llywydd y Gymdeithas ac yn drysorydd iddi am 12 mlynedd. Yr oedd yn feirniad cenedlaethol, yn osodwr toreithiog ac yn gyfansoddwr ceinciau gosod. Bu'n hyfforddwr ar lu o bartïon, unigolion a chorau cerdd dant a ddaeth i'r brig yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol a'r gwyliau cerdd dant. Gwerthfawrogwyd ei gyfraniad i fyd cerdd dant gan aelodau'r Gymdeithas a'i wneud yn aelod anrhydeddus am oes. Bu farw 14 Mawrth 1969.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.