DAVIES, Syr DANIEL THOMAS (1899 - 1966), ffisigwr

Enw: Daniel Thomas Davies
Dyddiad geni: 1899
Dyddiad marw: 1966
Priod: Vera Davies (née Clarkson)
Rhiant: Esther Davies (née Jenkins)
Rhiant: D. Mardy Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ffisigwr
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd ym mis Tachwedd 1899 yn fab i D. Mardy Davies, gweinidog (MC), Pontycymer, Morgannwg, ac Esther ei wraig. Magwyd ef yn nyffryn Garw ac addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Pen-y-bont ar Ogwr a Choleg y Brifysgol, Caerdydd. Gadawodd ei ôl ar batholeg gemegol yn Ysbyty Middlesex, Llundain, wedi ei benodi'n batholegydd yno yn 1927, a bu'n gofrestrydd meddygol nodedig i'r ysbyty cyn ymuno â staff y Royal Free Hospital yn 1930, lle y gwnaeth waith clinigol am 30 mlynedd ac yn Ysbyty S. Ioan a S. Elizabeth am 35 mlynedd (1930-65). Rhagorodd fel athro a bu'n ddarlithydd Bradshaw yng Ngholeg Brenhinol y Ffisigwyr. Gwnaeth waith arloesol ym myd meddygaeth gyda Lionel Whitby, Graham Hodgson, yr Arglwydd Dawson ac eraill. Bu'n gweithio ar ddefnydd serwm Felton mewn niwmonia a chydnabyddir ei erthygl ar ' Gastric secretions of old age ' a gyhoeddodd ar y cyd â Lloyd James yn glasur. Cyhoeddodd nifer o lyfrau meddygol, gan gynnwys gwaith safonol ar niwmonia a llyfrau ar glwyfau yn y stumog a diffyg gwaed. Yr oedd yn gymrawd o'r Gymdeithas Feddygol Frenhinol. Yn 1938 penodwyd ef yn feddyg i'r teulu brenhinol gan ddod yn feddyg i'r Brenin George VI ac yn ddiweddarach i'r Frenhines a pharhaodd yn feddyg i Ddug Windsor gan fod yn un o'i ffrindiau personol. Bu'n gyfeillgar iawn â meddygon amlwg fel yr Arglwyddi Dawson a Horder. Ef oedd meddyg personol yr Arglwydd Beaverbrook a bu'n gynghorwr meddygol iddo pan oedd yn y Weinyddiaeth Gyflenwi yn ystod Rhyfel Byd II. Urddwyd ef yn farchog yn 1951. Fel anghydffurfiwr digymrodedd gwrthododd ymuno â'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol er bod Aneurin Bevan yn un o'i gyfeillion mwyaf mynwesol. Cadwodd gysylltiad â'r bywyd Cymreig gan gadw ei Gymraeg yn llithrig a gloyw. Yr oedd yn storïwr ac ymgomiwr di-ail a darllenwr eang mewn llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg. Yr oedd ymhlith aelodau gwreiddiol Ymddiriedolaeth Pantyfedwen a ffurfiwyd yn 1957. Priododd Vera, merch J. Percy Clarkson, a chawsant ddwy ferch. Bu farw 18 Mai 1966 yn ei gartref yn Wimpole Street, Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.