EDWARDS, CHARLES ALFRED (1882 - 1960), metelegydd a phrifathro Coleg y Brifysgol, Abertawe

Enw: Charles Alfred Edwards
Dyddiad geni: 1882
Dyddiad marw: 1960
Priod: Florence Edith Edwards (née Roberts)
Rhiant: Elizabeth Edwards
Rhiant: Samuel Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: metelegydd a phrifathro Coleg y Brifysgol, Abertawe
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Addysg; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Donald Walter Hopkins

Ganwyd 23 Mawrth 1882, mab Samuel ac Elizabeth Edwards, Kitchener, Ontario, Canada. Symudodd y teulu i sir Gaerhirfryn yn 1884. Prentisiwyd ef yn 1898 yn ffowndri gweithiau rheilffyrdd siroedd Caerhirfryn ac Efrog. Cymaint oedd ei ddiddordeb ym mhriodoleddau metelau ac aloion fel y penodwyd ef yn gynorthwywr yn adran feteleg y Labordy Ffisegol Cenedlaethol yn 1905, lle y bu'n cydweithio â'r Dr. H.C.H. Carpenter ar adroddiad ar yr aloion alwminiwm-copr yn 1907. O hynny hyd 1910 bu'n ddarlithydd mewn meteleg ym Mhrifysgol Manceinion, ac am y 4 blynedd nesaf bu'n fetelegydd i gwmnïoedd Bolckow Vaughan a Dorman Long ym Middlesborough. Cyhoeddodd amryw bapurau ar drin dur gyda gwres a dyfarnwyd iddo radd M.Sc. Yr oedd o flaen ei oes gydag argymell ychwanegu ocsigen at yr awyr a chwythid i mewn i'r ffwrneisi blast, arfer a ddaeth yn gyffredin hanner canrif yn ddiweddarach. Wedi cyhoeddi rhagor o ganlyniadau ymchwil dyfarnwyd iddo radd D.Sc. yn 1913. Priododd Florence Edith Roberts yn 1908 ac yn 1913 ganwyd eu mab. Yn 1914 penodwyd ef i gadair meteleg Prifysgol Manceinion, lle y llwyddodd i gyfuno gwaith i'r llywodraeth ar ddadansoddi a thrin dur gyda gwres a datblygu ysgol anrhydedd mewn meteleg yn y brifysgol.

Yn 1920 fe'i penodwyd yn bennaeth adran meteleg ac yn ddirprwy-brifathro coleg newydd Prifysgol Cymru yn Abertawe. Dynion ieuainc wedi bod mewn gwasanaeth milwrol ac yn hŷn nag arferol oedd y myfyrwyr cyntaf, ond, gyda chymorth tri chydweithiwr a ddaeth gydag ef o Fanceinion, perswadiwyd hwynt i ymgymryd ag astudiaeth drylwyr a rhai ohonynt yn ddiweddarach i gymryd at waith ymchwil. Gyda phrofiad blaenorol yr athro mewn diwydiant, a'i ddiddordeb dwfn mewn cymhwyso gwyddoniaeth, datblygwyd cydweithrediad cyffredinol a bywiog gyda diwydiannau lleol, yn enwedig dur a phlatiau tun, a arweiniodd i sefydlu grŵp ymchwil gyda chymorth y South Wales Siemens Assocn. Esgorodd hyn ar gyhoeddi llawer cyfraniad ar gynhyrchu llafnau dur a phlatiau tun, yn cynnwys gwaith terfynol ar gyfansoddiad ingotau dur a dylanwad rholio oer trwm ar natur y llafnau gorffenedig.

Etholwyd ef yn brifathro'r coleg yn 1926, ond cadwodd y gadair meteleg a chael pleser mawr mewn trafod, dysgu, ymchwilio, a thraddodi darlithiau a chyhoeddi papurau fel ymryddhad oddi wrth ei ymdrechion grymus i hyrwyddo buddiannau'r coleg. Pleser mawr i gylch eang o'i gyfeillion diwydiannol ac academaidd oedd ei ethol yn F.R.S. yn 1930. Yr oedd ei ddarlithiau yn y 30au cynnar ar adeilaeth aloion eto'n enghraifft o'i allu i gadw ar y blaen i syniadau cyfoes ar bwnc pwysig. Rhoes Rhyfel Byd II ben ar y cynllun mawr i amnewid yr adeiladau dros dro a godwyd yn 1921 y buasai ef mor ddygn ei ymdrech drosto. Mewn cyfnod anodd, a barhaodd bron hyd ei ymddeoliad yn 1947, bu ei arweiniad yn gymorth sylweddol i roi'r coleg mewn sefyllfa ffafriol i fanteisio ar bob cyfle diweddarach i ddatblygu.

Cadwodd ei ddiddordeb mewn meteleg hyd yn oed wedi ymddeol a bu am flynyddoedd yn ymgynghorwr i waith dur mawr Guest, Keen & Nettlefolds. Yr oedd ei bersonoliaeth encilgar a'i betruster i ddatgan ei farn mewn gwrthgyferbyniad llwyr i dystiolaeth ei ddatblygiad, drwy ymdrech bersonol, o fod yn brentis i gyrraedd safon academaidd uchel a chael anrhydeddau uchaf ei alwedigaeth. Gŵr rhadlon ac urddasol ydoedd, a fedrai ennyn brwdfrydedd a chyfeillgarwch parhaol. Teimlwyd ei golled gan lawer pan fu farw 29 Mawrth 1960.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.