Ganwyd 18 Mehefin 1910 yn Crossens ger Southport, sir Gaerhirfryn, yr ieuengaf o bedwar plentyn y ficer. Credai fod y teulu Edwards wedi dod o Gymru ond ni wyddai pa bryd: yr oedd y taid hefyd yn offeiriad ac yn sosialydd arloesol. Addysgwyd Menlove yng Ngholeg Feetes cyn mynd i Brifysgol Lerpwl lle graddiodd yn feddyg yn 1933. Yno yn 1930 sefydlodd ef a'i frawd, Hewlett, Y Clwb Dringo Creigiau. Yn fuan daeth yn un o geffylau blaen ail oes aur dringo Eryri. Ef oedd arloeswr 'tair craig' Bwlch Llanberis ac awdur llawlyfrau Clwb y Dringwyr ar Gwm Idwal (1936); Tryfan (1937) a'r Lliwedd (1939) ar y cyd â Wilfrid Noyce; a Chlogwyn Du'r Arddu (1942) ar y cyd â J.E.Q. Barford. Yn gryf eithriadol, ymorchestai hefyd fel nofiwr a rhwyfwr mentrus. Hoffai sialens 'amgylchiadau gwael, craig wael a sgidiau gwael' ar ddringfeydd llaith fel rhai Clogwyn y Geifr. Nid ymddiddorodd yn yr Alpau. Mawrygir ei ysgrifau prin ar y profiad o ddringo a disgrifiadau cynnil ei lawlyfrau; nid yw ei ychydig gerddi cystal. Cynhwyswyd y rhan fwyaf o'i waith gorau yn y cyfrolau a enwir isod.
Er bod canmol arno fel seiciatrydd yn Lerpwl, rhwng haf 1941 a hydref 1942 ymneilltuodd i Hafod Owen, uwchben Nant Gwynant, er mwyn canolbwyntio ar ochr ddamcaniaethol ei waith. Dychwelodd i swyddi yn Llundain ond ni chymerwyd ei syniadau o ddifrif. Ac yntau yn wrthwynebydd cydwybodol, yn agnostig ac yn wrywgydiwr gwrthodedig, trodd ei unigrwydd yn baranoia ac ymddeolodd i fyw yn ymyl ei chwaer ger Caer-gaint yn 1944. Bu mewn ysbytai meddwl, gan gynnwys Dinbych (1949-50). Ar 2 Chwefror 1958 cymerodd ei fywyd ei hun trwy gymryd potassium cyanide. Gwasgarwyd ei lwch yn ymyl Hafod Owen. Yr oedd wedi ei ethol yn aelod er anrhydedd o Glwb y Dringwyr ac er bod un neu ddau o'i gyfoedion yn ddringwyr cystal os nad gwell nag ef, â Menlove Edwards yn anad neb y cysylltir naws y 1930au ar greigiau Eryri.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.