EDWARDS, Syr IFAN ab OWEN (1895 - 1970), darlithydd, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru;

Enw: Ifan ab Owen Edwards
Dyddiad geni: 1895
Dyddiad marw: 1970
Priod: Eirys Mary Lloyd Edwards (née Phillips)
Plentyn: Ifan Prys Edwards
Plentyn: Owen Edwards
Rhiant: Ellen Elizabeth Edwards (née Davies)
Rhiant: Owen Morgan Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: darlithydd, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru;
Maes gweithgaredd: Addysg; Eisteddfod; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 25 Gorffennaf 1895 yn Nhremaran, Llanuwchllyn, Meirionnydd, yn fab i Syr O.M. Edwards ac Ellen ei wraig, eithr yn Rhydychen y magwyd ef nes dychwelyd i Lanuwchllyn yn 1907. Aeth i ysgol ramadeg y Bala ac oddi yno i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1912-15). Ar ôl bod trwy'r drin yn Ffrainc (1915-18) aeth i Goleg Lincoln, Rhydychen (1918-20) a graddio mewn hanes. Yn y cyfamser collodd ei rieni a llywiodd dymuniad olaf ei dad ar i Gymru gael gwell addysg ei gamre weddill ei oes. Dychwelodd i Gymru fel athro yn ysgol ramadeg Dolgellau cyn ei benodi'n diwtor rhan-amser yn Adran Efrydiau Allanol C.P.C., Aberystwyth (1921), darlithydd yn yr Adran Addysg (1933) a chyfarwyddwr Efrydiau Allanol (1946). Ymddeolodd ymhen dwy flynedd i roi ei amser yn llawn i Urdd Gobaith Cymru.

Wedi marw ei dad teimlodd fod rheidrwydd arno i gymryd at y gwaith o olygu Cymru (1920-27) a Cymru'r Plant (1920-50), gan gychwyn atodiad iddo - Cronicl yr Urdd (1928-33) - yn ogystal â chylchgrawn i ieuenctid, Y Capten (1931-32). Ei lythyr yn rhifyn Ionawr 1922 o Cymru'r Plant oedd cychwyn Urdd Gobaith Cymru (Fach). Yr oedd yn weledydd a realydd; yn arweinydd a chanddo'r ddawn i ennill pob math o bobl i'w gefnogi a noddi ei gynlluniau blaengar ac uchelgeisiol. Cychwynnodd wersyll gwyliau yn Llanuwchllyn yn 1928; yn ddiweddarach cafwyd safleoedd mwy parhaol yn Llangrannog (1932) a Glan-llyn (1950). Cychwynnodd eisteddfod flynyddol yr Urdd yn 1929; ei mabolgampau yn 1932; mordaith bleser yn 1933; gwersyll i ddysgwyr yr iaith a chynghrair pêldroed i chwarae am gwpan yr Urdd yn 1941; gwersyll cydwladol yn 1948; a gwersyll Celtaidd yn 1949. Yr un flwyddyn agorwyd Pantyfedwen yn Y Borth, Ceredigion, fel canolfan breswyl i gynnal cyrsiau difyr ar bob math o bynciau y manteisiodd miloedd o ieuenctid ac oedolion arnynt. Derbyniai ddyfeisiadau newydd i'w defnyddio orau ag y medrai er lles Cymru. Tynnai luniau â'i gamera o weithgarwch yr Urdd a dangos sleidiau yn y pentrefi yn ystod y gaeaf; yn 1935, gyda chymorth J. Ellis Williams , gwnaeth y ffilm (rannol lwyddiannus) lafar Gymraeg gyntaf, Y Chwarelwr, ar gyfer sinema deithiol; a bu'n gyfarwyddwr cwmni Teledu Cymru a'r Gororau (T.W.W.), gan ddylanwadu o blaid y Gymraeg ar aelodau'r bwrdd. Trwy ei ymdrechion ef yr agorwyd yr Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth yn 1939. Ar waethaf pob beirniadaeth ystyriai mai hon oedd y fenter fwyaf llwyddiannus a gwerthfawr y bu'n gysylltiedig â hi. Yn ogystal â'r cylchgronau a enwyd, golygodd A catalogue of Star Chamber proceedings relating to Wales (1929), a rydd ryw syniad o'r maes y buasai wedi dymuno gweithio ynddo pe na bai wedi ymdynghedu i roi o'i orau i'r Urdd. Yr oedd yn gyd-awdur Llyfr y bobl bach (1925) gydag E. Tegla Davies; awdur Yr Urdd 1922-43 (1943); hunangofiant bychan Clych atgof (1961); a nifer o erthyglau yn cynnwys ' The Welsh language, its modern history and its present-day problems ' yn Hesperia, 1951, 39-57. Rhoddodd wasanaeth arbennig i lu o sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru a Llundain. Bu'n ynad hedd (1941-58) a gweithiodd yn galed gyda Mudiad Senedd i Gymru ar ddechrau'r 1950au. Urddwyd ef yn farchog yn 1947; yn 1956 cyflwynwyd iddo gan yr Urdd ddarlun olew ohono'i hun gan Alfred Janes, a medal aur gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion; a LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1959.

Priododd, 18 Gorffennaf 1923, ag Eirys Mary Lloyd Phillips, Lerpwl, a chartrefu yn Neuadd Wen, Llanuwchllyn hyd 1930, ac yn Aberystwyth o hynny ymlaen. Ganed iddynt ddau fab, Owen a Prys. Bu farw yn ei gartref, Bryneithin, 23 Ionawr 1970 a'i gladdu yn Llanuwchllyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.