Ganwyd 10 Mawrth 1891 yn 17 Dorothy St., Gelli, Rhondda, Morgannwg, yn ferch i John ac Ellen Evans a ymfudodd o Geredigion yn 1871. Cafodd ei haddysg yn ysgol uwchradd y Rhondda, a chanolfan disgyblathrawon y Rhondda cyn mynd i G.P.C., Aberystwyth yn 1911 a graddio mewn Cymraeg yn 1914. Penodwyd hi'n ddarlithydd yng Ngholeg Hyfforddi Morgannwg yn y Barri yn 1915 a'i dyrchafu'n brifathrawes y coleg yn 1923. Cymerai ddiddordeb arbennig mewn defnyddio'r Gymraeg mewn ysgol a choleg, a bu ei llyfr The teaching of Welsh (1924) a oedd yn seiliedig ar destun ei thraethawd gradd M.A., ei Llawlyfr i athrawon (1926) a Cynllun Cymraeg (1927) o fudd mawr i athrawon yn nyddiau cynnar Cymreigio gwersi yn yr ysgolion. I gwrdd â'r angen am ddeunydd darllen i'r plant cyhoeddodd Y Mabinogion i'r plant, 4 cyfrol (1924), Hwiangerddi Rhiannon (1926) a chyfrol ar leoedd hanesyddol Morgannwg, Y Wen fro (1931).
Bu'n aelod o nifer o gyrff cyhoeddus. Hi oedd yr unig ferch ar y Pwyllgor Adrannol ar Addysg, 1925-27, a'r wraig gyntaf i'w hethol ar lys yr Ysgol Feddygol (bellach Coleg Meddygol Prifysgol Cymru). Bu ar bwyllgor gwaith Coleg Harlech o'r dechreuad yn 1927, yn is-lywydd yn ddiweddarach ar lysoedd colegau Prifysgol Cymru yn Aberystwyth a Chaerdydd, ac islywydd Urdd Gobaith Cymru. Hi oedd cadeirydd cyntaf cangen Cymru o Gymdeithas Ysgolion Meithrin. Yr oedd yn frwd dros sefydlu ysgolion Cymraeg a thros y diwylliant Cymreig yn gyffredinol a galwyd am ei gwasanaeth fel darlithydd, beirniad eisteddfod a darlledydd. Gyda chymorth Cymreigesau brwd cafodd ddylanwad mawr ar filoedd o fyfyrwyr y coleg yn y Barri a derbyniodd yr anrhydedd o C.B.E. yn 1948. Bu farw 26 Medi 1953 gan adael tair chwaer.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.