Ganwyd 14 Chwefror 1889 yn fab i G.T. Evans, rheolwr banc, Bryn Estyn, y Rhyl, Fflint. Addysgwyd ef yn Ysgol Rhuthun ac yn Rhydychen, yng Ngholeg Lincoln i ddechrau yn darllen hanes ac economeg, ac wedyn yng Ngholeg Magdalen yn paratoi ar gyfer cwrs meddygol yn Ysbyty San Siôr, Llundain. Cafodd yrfa ddisglair iawn fel efrydydd ac enillodd nifer o'r prif wobrau. Graddiodd yn feddyg yn 1916. Ar ôl 3 blynedd yn y fyddin gyda'r R.A.M.C. enillodd M.A., D.M. yn 1919 a'r F.R.C.S. yn 1921.
Gyda record o'r safon yna mae'n syndod braidd na cheisiodd am swydd fel ymgynghorydd yn un o ysbytai Llundain. Fodd bynnag, daeth i Gaernarfon at Dr. Lloyd Roberts yn 1926 yn feddyg teulu yn 37 Castle Square. Yn 1931 dyfarnwyd iddo fedal aur yr Hunterian Society am waith ymchwil ar agweddau teuluol un o'r afiechydon gwenerol. Apwyntiwyd ef yn llawfeddyg i Ysbyty Môn ac Arfon, ond ymddeolodd o'r swydd honno ymhen ychydig flynyddoedd. Aflwyddiannus fu ei gais i fynd yn ôl ar y staff fel ffisigwr.
Yn ystod y cyfnod hwn bu'n weithgar mewn llawer cyfeiriad ar wahân i'w bractis. Yr oedd yn gantwr da, yn flaenor yng nghapel Engedi (MC) ac yn bregethwr lleyg. Yn 1942-43 ef oedd llywydd Cangen Gogledd Cymru o'r B.M.A., ac uchel siryf sir Gaernarfon. Yr oedd yn ŵr o ddiwylliant eang ac ymddiddorai mewn athroniaeth a diwinyddiaeth yn ogystal â'r gwyddorau. Fel yr âi'r blynyddoedd heibio trodd Griffith Evans fwyfwy at y ffiniau rhwng y disgyblaethau hyn a meddygaeth bur. Ymhen amser sefydlodd, gyda chymorth nifer o gyfeillion, Ganolfan y Weinidogaeth Iacháu yng Nghaernarfon, a dewiswyd ef yn llywydd cyntaf Pwyllgor Iacháu ei enwad. Oddi yno ymestynnodd ei ddiddordeb i gefnogaeth ymarferol o'r London Healing Mission, i'r graddau iddo symud i fyw i Melbury Road, Kensington, ac ymaelodi yn eglwys Charing Cross (MC) yn 1958.
Erbyn hyn yr oedd ei gysylltiadau agos â'r mudiad Iacháu trwy Ffydd wedi gwanhau'n sylweddol ei berthynas â meddygaeth uniongred yn ystyr gyffredin y gair. Yn y weinidogaeth iacháu y parhaodd ei ddiddordeb, ac yn y maes hwn y canolbwyntiodd ei astudiaethau damcaniaethol. Trwythodd ei feddwl trwy ddarllen ar raddfa eang, ac ysgrifennodd yn bur helaeth, yn Saesneg gan mwyaf, mewn ymgais i ddistyllu syniadau arbenigwyr cyfoes yn y maes. Ond mae'n rhaid cyfaddef fod yr elfen o niwlogrwydd ac amhendantrwydd yn ei ysgrifau yn eu gwneud bron yn annealladwy i feddygon a lleygwyr. Nid oes amheuaeth am onestrwydd ei gred yng ngwerth y canolfannau iechyd, nac yn nhrylwyredd ei ymchwil yn y maes, ond prin y gellir haeru iddo drosglwyddo ei frwdfrydedd i'w frodyr proffesiynol, ac nid ar eu ceidwadaeth gynhenid hwy yr oedd y cwbl o'r bai am hynny. Sylfaen ei waith yn y maes hwn oedd sicrwydd ei argyhoeddiad fel Cristion, a'i ymwybyddiaeth o ddylanwad y meddwl a'r emosiwn ar iechyd 'cyflawn' yr unigolyn. Er holl ddisgleirdeb blynyddoedd cynnar ei yrfa fel meddyg, ni allai ddianc rhag elfennau mympwyol wrth ddadansoddi canlyniadau ei arbrofion, a phriodol yw nodi fod y duedd yma yn wybyddus i'w gyfoedion ymhell cyn iddo ddechrau ar ei waith gyda'r Weinidogaeth Iacháu.
Priododd â Dilys Eames o Fangor yn 1916. Ni bu iddynt blant. Bu farw 20 Medi 1966 yn Llundain a'i gladdu ym mynwent Llanbeblig, Sir Gaernarfon
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.