Ganwyd 21 Ebrill 1894, yn Nhŷ Capel y Bryn (U), Cwrtnewydd, Ceredigion, yn fab Enoch Evans, Bwlchyfadfa, Talgarreg, a Mary (ganwyd Thomas) ei wraig. Hanai ei mam hi o Lanwenog, ond wedi colli ei gŵr yn ieuanc symudasai i fyw yn y tŷ capel. Bu dylanwad John Davies, gweinidog Capel y Bryn, yn fawr arno. Cafodd ei addysg yn ysgol gynradd y pentre y daethai David Rees Cledlyn Davies yn brifathro arni yn 1902. Yr oedd ef o'r un gwehelyth a mawr fu ei ddylanwad yntau ar ei ddisgybl. Peiriannydd mewn gwaith glo yn ardal Aberdâr oedd y tad a deuai adre bob mis i weld ei deulu. O ysgol sir Llandysul aeth y bachgen yn 1912 i Goleg y Brifysgol ym Mangor, lle y cafodd anrhydedd (dosbarth II) yn y Gymraeg yn 1915, a chymryd ei radd y flwyddyn ganlynol, ac M.A. yn 1926 am draethawd ar ddylanwad y Chwyldro Ffrengig ar lenyddiaeth Cymru. Cyhoeddwyd y gwaith gan Wasg y Brython yn 1928. Bu'n athro yn ysgolion Hendreforgan a Llwynypïa cyn gwasanaethu gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a bataliwn Hood R.N.D. yn ystod Rhyfel Byd I. Yn 1920 penodwyd ef yn athro Cymraeg yn ysgol sir Aber-gwaun, a bu yn y swydd honno nes ei benodi, yn 1935, yn brifathro ysgol sir Tyddewi. Fel athro yr oedd yn argyhoeoddedig mai ar seiliau cynhenid iaith, llên, hanes a thraddodiadau cenedl yr oedd addysg ei phlant i'w gosod. Yr oedd rhuddin traddodiad undodaidd ardal Cwrtnewydd yng ngwead ei gymeriad, a meddai ar y ddawn i feithrin cymod a chodi pontydd mewn cymdeithas. Bu'n is-lywydd Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, 1938-44. Wedi ymddeol, yn 1961, bu'n aelod o gyngor sir Penfro a thrwy hynny cafodd gyfle i frwydro dros le'r Gymraeg yn ysgolion y sir a thros sefydlu ysbyty yn Hwlffordd.
Ymddiddorodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ef oedd ysgrifennydd Pwyllgor Llên Eisteddfod Aber-gwaun, 1936. Enillodd ei wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl yn 1924 am lyfr darllen Cymraeg ar anifeiliaid ac adar gyda dyfyniadau o weithiau'r beirdd. Yn 1928 yn Eisteddfod Genedlaethol Treorci cafodd wobr am draethawd ar 'Morgan Rhys a'i amserau'. Cyhoeddwyd hwn gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1935. Gwobrwywyd ef hefyd am lawlyfrau ar idiomau Cymraeg ac ar y cynganeddion yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1938. Cyhoeddwyd Llawlyfr y cynganeddion gan yr un wasg yn 1939 a thrachefn yn 1951. Llyfrau eraill ganddo oedd Cymry enwog y ddeunawfed ganrif (1937), Gramadeg Cymraeg (1946 ac 1960), Dewi Sant a'i amserau (1963), a Diarhebion Cymraeg (1965). Cyfrannodd nifer o erthyglau i'r Ymofynydd.
Priododd, 2 Ionawr 1923, Eleanor, merch T. Jones Davies, gweinidog (MC) Ffynnon Taf, yng nghapel Pembroke Terrace, Caerdydd, a bu iddynt fab a merch. Bu farw yn ysbyty Hwlffordd, 30 Rhagfyr 1965, a chladdwyd ef ym mynwent Tyddewi.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.