Ganwyd 1 Gorffennaf 1884 ym Mronfelen, Capel Seion, Ceredigion, mab John ac Ellen Evans. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Capel Seion, ysgol fwrdd Pen-llwyn, ysgol ramadeg Castellnewydd Emlyn, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth (lle graddiodd yn y celfyddydau), a'r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth (lle graddiodd mewn diwinyddiaeth). Ordeiniwyd ef yn 1916, a bu'n weinidog ei fam-eglwys yng Nghapel Seion hyd ei farwolaeth. Priododd, 1943, Mary Muriel Williams, Aberystwyth. Bu farw 1 Mai 1965. Daeth i amlygrwydd yn 1926 pan gyhoeddodd lawlyfr, Prif gymeriadau'r Hen Destament, a wrthodwyd gan ei Gyfundeb oherwydd ei olygiadau rhyddfrydol. Yn 1935 cyhoeddodd Hanes Capel Seion, cyfrol ddefnyddiol iawn ym maes hanes lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.