Ganwyd 27 Tachwedd 1871 yn Elusendy, Llangybi, Sir Gaernarfon, yn fab i Thomas a Mary (ganwyd Roberts) Evans (gwas fferm oedd y tad) a bu iddynt saith o blant. Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor, Llangybi, ac wedi bod yn gweini ffermydd Eifionydd bu yn llythyrgludydd yn yr ardal am y rhan fwyaf o'i oes. Un o'i gyd-bostmyn oedd William Hugh Williams, ' Cae'r Go '. Yr oedd hefyd yn gwerthu 'llyfrau o bob math, prin a gwerthfawr, hen a newydd', a chanddo stondin yn Neuadd y Farchnad, Pwllheli, bob dydd Mercher. Cynhyrchodd gryn lawer o farddoniaeth, yn neilltuol awdlau, marwnadau ac englynion mynwentol. Nid oes mynwent yn Eifionydd nad oes yno englyn neu doddaid o'i waith. Cyhoeddodd Odlau Eifion (1908), Awdl 'Bwlch Aberglaslyn ' (1910), a Gwaith barddonol Cybi (1912). Bu'n cystadlu llawer mewn eisteddfodau lleol, taleithiol a chenedlaethol, ac enillodd nifer o wobrau, yn gadeiriau a choronau. Ei arwyr oedd Beirdd Eifionydd a gwnaeth gymwynas fawr drwy gyhoeddi eu gwaith, sef Lloffion yr ardd, barddoniaeth anghyhoeddedig Robert ap Gwilym Ddu (1911), a Beirdd gwerin Eifionydd a'u gwaith (1914). Bu hefyd yn hanesydd lleol a chyhoeddodd Ardal y cewri (1907), Cymeriadau hynod sir Gaernarfon (1923), ' Cae'r Go' William Hugh Williams, Yr Arloeswr Sol-ffa (1935), a John Jones (Myrddin Fardd) (1945). Hefyd fe gyhoeddodd amryw lyfrynnau a phamffledau, fel Neges y plant (1909) a Llawlyfr o farddoniaeth i blant (1911). Yr oedd yn byw ym Mryn Eithin, Llangybi. Bu farw 16 Hydref 1956 yn ysbyty Pwllheli a chladdwyd ef ym mynwent Capel Helyg, Llangybi.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.