EVANS, RICHARD THOMAS (1892 - 1962), gweinidog a gweinyddwr (B)

Enw: Richard Thomas Evans
Dyddiad geni: 1892
Dyddiad marw: 1962
Priod: Maria Myfanwy Evans (née Thomas)
Rhiant: Mary Evans
Rhiant: David Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog a gweinyddwr (B)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd 8 Hydref 1892 ym Mhen-y-graig, Cwm Rhondda, Morgannwg, yn fab i David a Mary Evans (lladdwyd y tad mewn damwain yng nglofa Abercynon yn 1924). Yr oedd y tad yn Fedyddiwr amlwg yn ei ardal, yn arbennig wedi symud i fyw i Abercynon, a bu'n ddiacon yno yn eglwys Calfaria ac yn frwd ei gefnogaeth i'r ymgyrch yn ail ddegawd y ganrif i sefydlu Cronfa Gynhaliol yr enwad. Aelod gyda'r Wesleaid oedd y fam, yn chwaer i weinidog yn y cyfundeb hwnnw, John Edward Thomas (1875 - 1959). Bedyddiwyd ef yn ifanc ym Methlehem, Trealaw, ond yng Nghalfaria, Abercynon, y codwyd ef i bregethu. Yn Nhrealaw hefyd y derbyniodd ei addysg gynnar, ac wedi hynny yn ysgolion uwchradd y Porth ac Aberpennar, a bu'n ddisgybl-athro ac athro am gyfnod yn Abercynon cyn ei dderbyn yn 1914 yn fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol a choleg y Bedyddwyr, Bangor. Oherwydd y gwendid corff a'i poenai ar hyd ei oes, nid yw'n debyg y buasid wedi galw am unrhyw fath o wasanaeth milwrol ganddo yn ystod Rhyfel Byd I, ond gan gryfed ei safiad heddychol mynnodd gefnu ar Fangor i'w ordeinio 23 Mai 1917 yn Ainon a'r Tabernacl, Bodedern. Dychwelodd i'r coleg yn y fl. 1919-20 i orffen ei radd B.A. a sefydlwyd ef wedyn yn ei dro 23 Mehefin 1920 ym Mhorthmadog, 14 Mehefin 1922 yn Nhrefdraeth, Penfro, a 26 Mai 1927 yn Rhydaman. Ymhen saith mlynedd dewiswyd ef yn ysgrifennydd Undeb Bedyddwyr Cymru, a chyflwynwyd ef i'w swydd yn ystod y gynhadledd flynyddol ym Methesda, Abertawe, 3 Medi 1934. Ymddeolodd ddydd Llun y Pasg 7 Ebrill 1958, ac fel teyrnged i'w wasanaeth fe'i codwyd yn llywydd Adrannau Cymraeg a Saesneg Undeb Bedyddwyr Cymru am y fl. 1958-59 (eithr heb alw arno i draddodi anerchiad), a'i dystebu'n hael mewn cyfarfod cyhoeddus yn Abertawe 5 Rhagfyr 1958. Parhaodd i fyw yn Abertawe, ac yn ei gartref yno yn 11 Gower Road, Sgeti, y bu farw 13 Mehefin 1962. Claddwyd ef, yn ôl ei ddymuniad ei hun, yn breifat. Er gwaethaf pyliau parhaus o afiechyd, llwyddodd i arwain Bedyddwyr Cymru yn ddiogel drwy gyfnod o gryn gyfnewid ac ad-drefnu, a bernir mai ei brif orchest oedd canoli gweithgareddau'r enwad dan yr unto yn y swyddfa newydd yn Nhŷ Ilston a agorwyd yn Abertawe yn 1940.

Priododd 28 Mawrth 1921 yn Seion, Glanconwy, Maria Myfanwy (ganwyd 27 Mehefin 1893), merch William Wallace Thomas (1832 - 1904), brodor o Bentrefoelas a gweinidog (A) ym Maes-glas, ger Holywell, o 1873 hyd ei ymddeol i Lanconwy yn 1885. Ei chymwynas bennaf hi oedd arwain Mudiad Chwiorydd y Bedyddwyr i sefydlu cartref henoed yr enwad yn Nglyn Nest, Castellnewydd Emlyn, ac yr oedd yn briodol mai hi a wahoddwyd i'w agor yn swyddogol 26 Medi 1970, ac mai yno y treuliodd y deunaw mis olaf o'i hoes, o Fedi 1978 hyd ei marw yn ysbyty Glangwili ddydd Llun 4 Chwefror 1980. Amlosgwyd ei gweddillion ym Mharc-gwyn, Arberth, 11 Chwefror canlynol. Ganed o'r briodas, 16 Mai 1934, un mab.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/