EVANS, THOMAS (1897 - 1963), henadur, gweinyddwr ysbytai ac addysg

Enw: Thomas Evans
Dyddiad geni: 1897
Dyddiad marw: 1963
Priod: Miriam Evans (née Davies)
Plentyn: Rhys Evans
Rhiant: Catherine Evans
Rhiant: William Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: henadur, gweinyddwr ysbytai ac addysg
Maes gweithgaredd: Addysg; Meddygaeth; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Walter Thomas Morgan

Ganwyd yn Nhwyn Carno, Rhymni, Mynwy, 9 Medi 1897, mab William Evans, glöwr, a Catherine, ei wraig. Brodor o Hirwaun, Aberdâr, oedd ei dad ond â'i wreiddiau yng Ngheredigion. Addysgwyd y mab yn ysgolion elfennol Rhymni, ond gadawodd yn 12 oed i weithio mewn gwaith priddfeini yn Rhymni. Ar ôl hynny treuliodd 14 blynedd tan ddaear ym mhyllau glo Rhymni, Oakdale a Phengam. Pan dorrodd streic fawr 1926 prynodd fusnes llaeth ym Mhengam. Yn 1927 dechreuodd ar yrfa gyhoeddus drwy ennill sedd dros y Blaid Lafur ar gyngor dosbarth Gelli-gaer, a bu'n aelod ohono hyd ei ymddeoliad yn 1950. Bu'n arweinydd y grŵp Llafur am 15 mlynedd a bu'n gadeirydd ddwywaith. Yn 1928 daeth yn aelod o gyngor sir Morgannwg dros ward Hengoed. Cydnabuwyd ei fedr mewn materion ariannol yn fuan yno, ac yn 1939 fe'i hetholwyd yn gadeirydd pwyllgor cyllid y sir a'i ail-ethol 24 gwaith yn olynol am weddill ei oes, a daethpwyd i'w adnabod yn answyddogol fel 'canghellor cyllid' y sir. Ef oedd cadeirydd y cyngor yn 1952-53, ac yn ystod y tymor cyflwynwyd anerchiad cyhoeddus iddo gan awdurdodau lleol Cymru i gydnabod ei wasanaeth hir a disglair i weinyddiaeth ei wlad.

Ni chyfyngodd ei hun i lywodraeth leol. Bu'n aelod a chadeirydd bwrdd llywodraethol Ysgol Lewis, Pengam, yn gadeirydd pwyllgor cyllid Prifysgol Cymru am dros 20 mlynedd ac yn aelod o gyngor Ysgol Feddygol Cymru. Cydnabu'r brifysgol ei wasanaeth i addysg yn 1958 gyda gradd LL.D. er anrhydedd Cafodd yrfa ddisglair hefyd fel gweinyddwr ysbytai. Yn 1948 etholwyd ef yn gadeirydd cyntaf pwyllgor rheoli ysbytai Rhymni a Sirhywi, ac yn 1955 yn gadeirydd bwrdd llywodraethwyr ysbytai unedig Caerdydd, yn cynnwys yr ysbyty hyfforddi. Adeg ei farwolaeth ef oedd is-gadeirydd Bwrdd Ysbytai Cymru, a buasai'n gadeirydd ei bwyllgor cyllid er 1952. Ef yn 1952 oedd cadeirydd diwethaf Cyngor Datblygu Diwydiant Cymru a Mynwy. Yr oedd yn aelod rhan-amser o Fwrdd Trydan de Cymru, a bu'n cynrychioli cyngor dosbarth Gelli-gaer ar fwrdd carthffosiaeth cwm Rhymni. Bu'n ynad heddwch oddi ar 1936. Urddwyd ef yn C.B.E. yn 1956.

Er gwaethaf galwadau llafurus ei fywyd cyhoeddus bu'n ffyddlon i wasanaethau ei gapel, Nasareth (MC), Glan-y-nant, Pengam, lle bu'n flaenor. Yr oedd ynddo ryw urddas cynhenid; yr oedd yn hollol ddidwyll ac yn Gristion o argyhoeddiad dwfn. Gellir honni'n ddiamau mai o'i ffydd Gristionogol y tarddai prif symbyliad ei fywyd o wasanaeth i'w gydddynion.

Priododd yn 1918 Miriam Davies, ysgolfeistres, Tredegyr Newydd, a fu farw o'i flaen yn 1953. Bu iddynt ddau fab a merch. Lladdwyd un o'r meibion, peilot ymladd yn y Llu Awyr, ar 'D-day' yn 1944. Bu Thomas Evans farw 14 Ionawr 1963.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.