Ganwyd 7 Hydref 1895, yng Nghwmdâr, Aberdâr, Morgannwg, mab Henry Howard Evans (rheolwr cyffredinol glofeydd Y Cambrian a lleygwr amlwg gyda'r Bedyddwyr) a Mary Ann Evans ei wraig, a fu farw ychydig ar ôl geni ei hunig blentyn. Addysgwyd ef mewn ysgol elfennol yng Nghwmdâr a Choleg Crist, Aberhonddu. Yn Rhyfel Byd I bu'n gwasanaethu yn y fyddin yn yr Aifft, Ffrainc, a Phalesteina. Wedi dychwelyd ymaelododd yng Ngholeg Crist, Rhydychen, ac astudio hanes a graddio yn yr ail ddosbarth yn 1922. Disgleiriodd yng nghymdeithas ddadlau'r Undeb yn Rhydychen, ac etholwyd ef yn olynol yn ysgrifennydd, llyfrgellydd iau, a llywydd (yn 1922). Bu hefyd yn llywydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym. Galwyd ef i'r bar yn 1924. Yr oedd yn areithiwr huawdl, ac yn etholiad 1929 bu'n ymgeisydd Rhyddfrydol dros Bontypridd, a dod yn ail o dri gan gasglu 37% o'r bleidlais. Gwnaeth ymgais arall i fynd i'r senedd mewn is-etholiad ym Merthyr Tudful yn 1934, pryd y daeth yn ail i S.O. Davies, o bedwar o ymgeiswyr, gyda phleidlais o dros ddeng mil.
Yn 1930 penodwyd ef yn ddarlithydd yn adran y gyfraith yng Ngholeg y Brifysgol yn Aberystwyth, ond ymddeolodd yn 1935 i ailgydio yn ei alwedigaeth fel bargyfreithiwr. Yr oedd ganddo argyhoeddiadau crefyddol cryf a chydwybod gymdeithasol, a theimlai awydd i wneud rhywbeth i liniaru cyni'r di-waith yn y de, ac yn 1936 derbyniodd swydd warden sefydliad addysgol Aberdâr, Coleg Gwerin Cynon, dan nawdd y Cyngor Gwasanaeth Cymdeithasol. Priododd yn Ebrill 1927 Katherine Mary, merch Henry Dawson, Streatham, Llundain. Ganwyd iddynt un plentyn a fu farw yn ddisymwth yn 1938. Buasai'n hapus iawn yn ei waith yn Aberdâr, ond bu colli ei fab yn ergyd drom iddo. Ymddeolodd yn 1939 a dychwelodd i Lundain, a derbyn swydd yn y weinyddiaeth Economic Warfare. Parhaodd yn y gwasanaeth sifil ar ôl y rhyfel, a gorffen ei yrfa yn y weinyddiaeth Gyflenwi. Bu farw yn ei gartref yn Dulwich Village, 15 Mai 1957.
Mae'n wir na chyflawnodd, ar lawer ystyr, ei addewid gynnar. Yr oedd hynny i'w briodoli i raddau helaeth i freuder ei iechyd mewn canlyniad i'w glwyfau yn y rhyfel. Gordrethodd ei hunan drwy geisio cyflawni mewn gwleidyddiaeth a'r gyfraith fwy nag a allai ei gorff ei ddal.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.