Ganwyd 26 Ionawr 1909 yn Bargod, Morgannwg Cafodd ei addysg yn Ysgol Lewis, Pengam, ac yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, lle graddiodd mewn mathemateg. Am gyfnod byr bu'n athro mewn coleg cenhadol yng ngorllewin Affrica; yna o 1932 yn athro mathemateg (ac yn ddiweddarach yn ddirprwy-brifathro) yn ysgol ramadeg Llangefni hyd ei farw, 30 Ionawr 1970.
Cyhoeddodd nofel, One has been honest (1930), a cherddi a storïau yn The Adelphi ac yn The Twentieth century yn y tridegau; yna troes at y ddrama a pherfformiwyd The disinherited o'i waith yn Theatr Fach Abertawe yng Ngorffennaf 1939. Ymunodd â'r llynges adeg y rhyfel a thra oedd yn Ynys yr Iâ ymroes i ddysgu Cymraeg o lyfryn Caradar. O hyn allan ar gyfansoddi dramâu yn Gymraeg yr oedd ei fryd. Ysgrifennodd nifer o ddramâu byrion: Y Lleoedd pell (1945), Y Blaidd-ddyn (1945), Awena (1945), Harri ddewr, a Morwyn y môr (1952), a thair drama hir: Catrin (a enillodd iddo wobr am ddrama hir yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1949), Y Ferch a'r dewin (1958) (a oedd yn gyd-fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl 1953), a Merch yw Medusa (1951). Cyfieithodd hefyd ddrama Andre Obey, Noa (1951). Eithr pennaf gyfraniad F.G. Fisher oedd mynnu cartref sefydlog i Gymdeithas Ddrama Llangefni, a thrwy hynny greu'r Theatr Fach a agorodd ym Mhencraig, Llangefni, ym Mai 1953. Yno cafodd fod yn gyfarwyddwr theatr a gwireddu ei freuddwyd am theatr amatur yn cyflwyno dramâu yn gyson yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ôl safonau cwbl broffesiynol.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.