FLEURE, HERBERT JOHN (1877 - 1969), daearyddwr

Enw: Herbert John Fleure
Dyddiad geni: 1877
Dyddiad marw: 1969
Priod: Hilda Mary Fleure (née Bishop)
Rhiant: Marie Fleure (née Le Rougetel)
Rhiant: John Fleure
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: daearyddwr
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd yn Guernsey, 6 Mehefin 1877, yn fab i John Fleure (1803 - 1890), cyfrifydd, a'i briod Marie (ganwyd Le Rougetel). Yr oedd yn ddall mewn un llygad ac ni chaniatâi ei iechyd bregus iddo fynychu Ysgol Ganolradd y Taleithiau, Guernsey, 1885-91, ond yn ysbeidiol. Ar waethaf salwch parhaodd i astudio gartref trwy ddarllen a sylwi ar natur o'i gwmpas nes llwyddo i ymaelodi ym Mhrifysgol Llundain yn 1894 a chael gradd Intermediate B.Sc. yn 1897. Ym mis Medi 1897 enillodd ysgoloriaeth i Aberystwyth lle y daeth yn aelod sylfaenol Cyngor y Myfyrwyr, cyhoeddodd erthyglau yng ngylchgrawn y coleg a chafodd radd dosbarth cyntaf mewn sŵoleg yn 1901. Dyfarnwyd iddo gymrodoriaeth Prifysgol Cymru a'i galluogodd i fynd i Zürich, yr Yswisdir, i astudio bioleg y môr. Yno meistrolodd Almaeneg (yr oedd Ffrangeg eisioes yn ail iaith iddo) a chyhoeddi canlyniadau ei ymchwil a chael gradd D.Sc. (Cymru) am y gwaith. Dychwelodd i Aberystwyth yn 1904 yn ddarlithydd mewn sŵoleg, daeareg a botaneg. Ef oedd pennaeth yr adran sŵoleg 1908-10, pennaeth dros dro yr adran ddaeareg am ychydig, a'r athro sŵoleg o 1910 hyd 1917 pryd y penodwyd ef yn athro mewn anthropoleg a daearyddiaeth - yr unig un yn y deyrnas bryd hynny. Yn 1930 gadawodd Aberystwyth pan benodwyd ef yn athro cyntaf mewn daearyddiaeth ym Mhrifysgol Victoria, Manceinion.

Yn 1905 cychwynnodd astudiaeth anthropolegol o'r Cymry. Ymwelodd â phentrefi ymhob cwr o'r wlad gan ddarlithio a gwneud arolwg a mesuriadau. Cyflwynodd addroddiad o'i waith yn 1907 i Adran H (anthropoleg) Cymdeithas Prydain er Hyrwyddo Gwyddoniaeth, a chyhoeddodd (gyda T. Campbell James) adroddiad yn y cylchgrawn Man, y cyntaf o tua 30 o'i erthyglau ar anthropoleg. Yn 1916 ysgrifennodd bapur arloesol ar ddosraniad daearyddol y dosbarthau anthropolegol yng Nghymru. Cyhoeddodd werslyfrau megis Human geography in Western Europe (1918), Peoples of Europe (1922), a Races of England and Wales (1923), a throswyd i nifer o ieithoedd ei bapur clasurol Régions Humanies a gyhoeddwyd ym Mharis. Rhwng 1927 ac 1956 bu H.J.E. Peake ac yntau'n gydawduron cyfres nodedig o 10 cyfrol - The corridors of time - ac yn y cyfamser cyhoeddodd French life and its problems (1942) a A natural history of Man in Britain (1951 ac 1959). Trwy gyfrwng y Gymdeithas Ddaearyddol y bu ef yn ysgrifennydd iddi ac yn olygydd ei chylchgrawn Geography am 30 mlynedd, 1917-47, gweithiodd yn ddygn er hyrwyddo dysgu daearyddiaeth mewn ysgolion. Bu'n llywydd nifer o gyrff dysgedig, gan gynnwys Cymdeithas Archaeolegol Cymru yn 1924, ac anrhydeddwyd ef gan brifysgolion a chymdeithasau gwyddonol lle bynnag yr aeth; etholwyd ef yn F.R.S. yn 1936. Ond fel athro y cofid amdano yn bennaf. Ysgogai ei wrandawyr i feddwl drostynt eu hunain yn hytrach na'u llwytho â thoreth o ffeithiau.

Yn 1910 priododd â Hilda Mary Bishop o Guernsey, cynfyfyriwr o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a bu iddynt 3 o blant. Ar ei ymddeoliad yn 1944 symudodd i Lundain ac yn ddiweddarach i 66 West Drive, Cheam, Surrey, lle y bu farw 1 Gorffennaf 1969.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.