Ganwyd 1882 yn fab i C. Fred Fox, F.S.A., Bursledon, Hampshire, a'i wraig. Fe'i haddysgwyd yn Christ's Hospital, ysgol yn Horsham. Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 mlwydd oed, aeth am hyfforddiant fel garddwr llysiau gan orffen yn Worthing, Sussex, lle y cyfarfu â Louis Cobbett, patholegydd ar staff y Comisiwn Brenhinol ar Dwbercwlosis, a'i perswadiodd i gymryd swydd clerc ar staff y comisiwn yn Stansted, Essex. Pan orffennodd y comisiwn ei waith, tuag 1912, sefydlodd rhai o'i aelodau orsaf ymchwil yng Nghaergrawnt gan apwyntio Fox i ofalu am ei gweinyddiaeth hyd nes i'r Weinyddiaeth Amaethyddiaeth gymryd meddiant ohoni. Yn awr heb waith, trefnodd rhai o'i gyfeillion yng Nghaergrawnt iddo gofrestru am gwrs gradd yng Ngholeg Magdalen, Caergrawnt, ond ar derfyn ei flwyddyn gyntaf yno, 'trwy gam academig deheuig a thra anghyffredin', ni chyflawnodd ei gwrs gradd eithr ei symud yn hytrach dan y teitl 'rhag-gymrawd' i wneuthur gwaith ymchwil yn yr un coleg gan gynorthwyo yn amgueddfa archaeoleg ac anthropoleg y brifysgol. Enillodd The archaeology of the Cambridge region (Caergrawnt, 1922) radd Ph.D. iddo.
Yn 1922, pan wnaethpwyd R.E. Mortimer Wheeler, ceidwad adran archaeoleg Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, yn gyfarwyddwr yr amgueddfa honno, daeth ei hen swydd fel ceidwad yr adran archaeoleg yn wag. Er bod cryn bwyso am gael archaeolegydd 'o gefndir Cymreig' i lenwi'r swydd, argymhellodd Wheeler ddewis Fox ac ef a ddewiswyd. Yn 1926, pan ymadawodd Wheeler i gymryd swydd yn Llundain, dewiswyd Fox yn olynydd iddo eto fel cyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Yn ystod ei dymor fel cyfarwyddwr, parhaodd Fox i weithio yn y maes archaeolegol a chyhoeddodd yr Amgueddfa nifer o'i weithiau, yn eu plith The personality of Britain (1932), A find of the early Iron Age, Anglesey (1946) a (gyda'r Arglwydd Raglan) Monmouthshire houses (1951-54). Gwnaeth arolwg hefyd o Glawdd Offa, a gyhoeddwyd mewn rhifynnau o Archæologia Cambrensis Wedi ei ymddeoliad, cyhoeddodd yr Amgueddfa ei Pattern and purpose: a study of early Celtic art in Britain (1958). Derbyniodd lu o anrhydeddau; yn eu plith, ei urddo'n farchog (1935), F.B.A. (1940), gwobr G.T. Clark (1946), llywydd (1944-49) Cymdeithas Hynafiaethwyr Llundain a'i medalydd aur (1952), D. Litt. er anrhydedd Prifysgol Cymru (1947), llywydd y Gymdeithas Amgueddfeydd (1933-34), llywydd Cymdeithas Hynafiaethau Cymru (1933), cymrawd anrhydeddus Coleg Magdalen, Caer-grawnt (1953).
Bu'n briod ddwywaith: â (1) Olive Congreve-Pridgeon (bu farw 1932), cawsant ddwy ferch; (2) Aileen Mary Scott-Henderson, cawsant dri mab. Ar ôl ymddeol, trigai yng Nghaer-wysg, lle y bu farw 16 Ionawr 1967.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.