FREEMAN, KATHLEEN ('Mary Fitt'; 1897 - 1959), clasurydd ac awdur

Enw: Kathleen Freeman
Ffugenw: Mary Fitt
Dyddiad geni: 1897
Dyddiad marw: 1959
Partner: Liliane Marie Catherine Clopet
Rhiant: Catharine Freeman (née Mawdesley)
Rhiant: Charles Henry Freeman
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: clasurydd ac awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Roland Glyn Mathias

Ganwyd yn Yardley ger Birmingham, 22 Mehefin 1897, unig blentyn Charles Henry Freeman, Birkenhead, a'i wraig Catharine (ganwyd Mawdesley), Southport. Addysgwyd hi yn y Canton High School for Girls a Choleg Prifysgol De Cymru, Caerdydd, lle y graddiodd gyda B.A. yn y clasuron yn 1918, ac ennill M.A. yn 1922, a D.Litt. yn 1940. Apwyntiwyd hi yn ddarlithydd mewn Groeg yn yr un coleg yn 1919, a chyhoeddodd i ddechrau waith ymchwil clasurol a nifer o nofelau arbrofol. Bu bwlch pendant yn ei chyhoeddiadau rhwng 1929 ac 1936. Pan ailgydiodd mewn cyhoeddi gwaith sylweddol, yr oedd dan wasgfa rhyfel, a'i hegnïon eraill erbyn hyn wedi eu cyfeirio tuag at ysgrifennu dros 20 o nofelau datgelu rhwng 1941 ac 1958, a gyhoeddodd tan y ffugenw ' Mary Fitt '. Yn ystod y rhyfel (1939-45) darlithiai ar ran y Weinyddiaeth Hysbysrwydd a chymerodd ran yng nghynllun addysgu'r lluoedd arfog yn ne Cymru. Ar galan Hydref 1946, a hithau'n ddarlithydd uwch yn ei hadran, ymddiswyddodd i ymroi i deithio, i waith ymchwil, ac i ysgrifennu. Yn 1951 etholwyd hi'n gadeirydd y Philosophical Society of Great Britain, a'r un flwyddyn derbyniwyd hi i'r Detection Club, anrhydedd a fawr chwenychir gan ysgrifenwyr nofelau datgelu. Bu farw yn 61 oed, 21 Chwefror 1959, yn ei chartref yn Lark's Rise, Llaneirwg, Mynwy.

Fel Kathleen Freeman cyhoeddodd: The work and life o Solon (1926), The intruder and other stories (1926), Martin Hanner: A comedy (1926), Quarrelling with Lois (1928), This love (1929), It has all happened before, What the Greeks thought of their Nazis (1941), Voices of freedom (1943), What they said at the time: a survey of the causes of the second World War (1945), The murder of Herodes and other trials from the Athenian law courts (1946), Ancilla to the pre-Socratic philosophers, a complete translation of the fragments in Diel's Fragmente der Vorsokratiker (1946), The Greek way: an anthology (1947), sef cyfieithiadau o gerddi a rhyddiaith, The Philoctetes of Sophocles: a modern version (1948), Greek city states (1950), God, man and the state: Greek concepts (1952), The paths of justice (1954), The Sophists (1954) wedi ei gyfieithu o'r Eidaleg I sofisti, M. Untersteiner (1954), T'other Miss Austen (1956).

Nodyn golygyddol 2019:

Bu Freeman yn byw gyda'i chymar, Dr Liliane Clopet, meddyg teulu ac awdur, o'r 1930au hyd ei marwolaeth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.