HOWELL, THOMAS FRANCIS (1864 - 1953), gŵr busnes a bargyfreithiwr

Enw: Thomas Francis Howell
Dyddiad geni: 1864
Dyddiad marw: 1953
Priod: Edith Mary Howell (née Millard)
Rhiant: Fanny Howell (née Davies Logan)
Rhiant: James Howell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gŵr busnes a bargyfreithiwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Cyfraith
Awdur: David Glanville Rosser

Ganwyd yn Llundain 22 Hydref 1864 yn fab i James Howell a Fanny (ganwyd Davies Logan), yn ddiweddarach o Gaerdydd. Addysgwyd ef yng Nghaerdydd, a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt (1883-87), lle y cafodd raddau yn y clasuron a'r gyfraith. Yr oedd cerddoriaeth yn un o'i ddiddordebau pennaf o'i febyd, ac astudiodd y piano, sielo, canu a llefaru yn Ysgol Gerdd y Guildhall gyda'r bwriad o ddilyn gyrfa gerddorol. Modd bynnag, y gyfraith a orfu, a galwyd ef i'r bar yn y Deml Fewnol (1889) a gweithiodd am gyfnod ar Gylchdaith De Cymru. Ar farwolaeth ei dad yn 1909 cymerodd at redeg busnes y teulu fel rheolwr y siop yng Nghaerdydd a sefydlwyd gan ei dad, ac o dan ei gyfarwyddyd datblygodd y busnes nes dod yn adnabyddus trwy dde Cymru a thu hwnt. Daeth ef yn un o ddynion busnes mwyaf amlwg a llwyddiannus Cymru yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif ac ymddeolodd yn 1950. Yn 1913 derbyniwyd ef i Livery of the Drapers' Company, ac ef oedd Meistr y Cwmni yn 1940. Yn ystod Rhyfel Byd I gweithiai yn Adran Contractau'r Morlys gan gynrychioli'r adran yng Nghaerdydd yn 1918. Bu'n ynad heddwch dros Gaerdydd er 1935, ac ymgymerodd â nifer o ddiddordebau allanol eraill, megis bod yn rheolwr Ysgol Howell, Dinbych, ac ymddiriedolwr Oriel Gelfyddyd Whitechapel. Parhaodd i fod yn weithgar mewn cylchoedd cerddorol, gan wasanaethu ar nifer o bwyllgorau Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1909, ac ar amryw bwyllgorau Gŵyl Gerdd Dairblynyddol Caerdydd. Priododd, 1904, Edith Mary Millard a bu iddynt dri o blant. Bu farw mewn cartref i gleifion yng Nghaerdydd, 16 Tachwedd 1953.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.