Ganwyd yn fferm Ynysgain Bach ger Llanystumdwy, Caernarfon, 18 Mehefin 1906 yn fab ieuangaf o naw o blant i Huw ac Ann Hughes a ddaeth yn wreiddiol o Landecwyn, Meirionnydd. Addysgwyd ef yn ysgol gynradd Llanystumdwy ac ysgol sir Porthmadog. Bu'n ffodus iawn i gael athro gwyddoniaeth arbennig yn W. J. Hughes ac o'r herwydd sicrhaodd le iddo'i hun yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, i astudio o dan yr Athro Kennedy Orton. Yn 1927 enillodd radd B.Sc. gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn cemeg. Yn ystod 1927-28, hyfforddwyd ef yn athro a'r flwyddyn ddilynol dychwelodd i'w hen adran i wneud gwaith ymchwil. Cwblhaodd ei radd Ph.D. yn 1930 ac enillodd M.Sc. Prifysgol Llundain yn 1932 a D.Sc. Llundain yn 1936. Yn yr un flwyddyn fe'i gwobrwywyd â Medal Meldola Sefydliad Brenhinol Cemeg a'i ethol hefyd yn gymrawd coffa Ramsay. Ef a benodwyd i draddodi darlith Tilden y Gymdeithas Gemegol yn 1945.
Pan dorrodd Rhyfel Byd II, symudwyd ei adran i golegau prifysgol Aberystwyth a Bangor ac ef oedd bennaf gyfrifol amdani yno. Felly yn 1943 fe'i penodwyd yn Athro cemeg Coleg y Brifysgol Bangor a bu'n ddeon y gyfadran wyddoniaeth yno, 1946-48. Dychwelodd yn 1948 yn Athro cemeg Coleg Prifysgol Llundain a dyrchafwyd ef yn 1961 yn bennaeth yr adran gemeg a oedd ar y pryd yn cynnwys pum athro. Yn 1949 etholwyd ef yn gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol (F.R.S.). Edward David Hughes oedd y cyntaf yn y wlad i gynhyrchu a defnyddio hydrogen trwm, a llwyddodd gyda chymorth I. Dostrovsky a D.R. Llewellyn i adeiladu cyfarpar i wahanu isotopau ocsigen ar raddfa eang.
Bu'n dal nifer o swyddi yn ystod ei gyfnod yn Llundain. Ef oedd ysgrifennydd mygedol y Gymdeithas Gemegol, o 1950 i 1956; ac islywydd 1956-59; ysgrifennydd mygedol y Cyngor Cemegol 1953-55; cadeirydd Bwrdd Astudiaethau Cemeg a Diwydiannau Cemegol Prifysgol Llundain 1955-60; aelod o gyngor Sefydliad Brenhinol Cemeg 1961 hyd ei farwolaeth; llywodraethwr Polytechnig y Gogledd 1950-60; ysgrifennydd mygedol Ymddiriedolaeth Ysgoloriaethau Coffa Ramsay 1949-61 a chadeirydd y Cyngor Ymgynghorol 1961. Bu hefyd yn ddeon cyfadran wyddoniaeth Coleg y Brifysgol, Llundain, 1958-61. Ysgrifennodd dros 200 o erthyglau a phapurau gwyddonol ac ymddangosodd y rhan fwyaf ohonynt yn Jnl. Chem. Soc.
Yn 1934 priododd Ray Fortune Christina, merch Llewellyn Davies, Aberhonddu, a bu iddynt un ferch. Wedi salwch byr, bu farw yn ysbyty Coleg y Brifysgol, Llundain, 30 Mehefin 1963.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.